Logo Ysgol Nefyn
Ysgol Gynradd Nefyn
Newyddion

 

Albwm Lluniau Rhagfyr 2008 ~ Cliciwch yma
Newyddion o Ysgol Nefyn, Rhagfyr 2008

Diolch i deuluoedd y plant ddaeth atom i`r Ganolfan pan drefnodd plant Blwyddyn 5 Brynhawn Coffi yno. Fel rhan o`u prosiect buont yn anfon llythyrau yn hysbysu am y prynhawn, yn creu posteri, yn trefnu byrddau gwerthu ac yn y blaen. Casglwyd £126 tuag at gronfa`r Ganolfan newydd yn Nefyn.
Mae wedi bod yn fis prysur yma`n yr ysgol. Cynhaliwyd parti Nadolig y plant ieuengaf yng Ngwesty`r Goedlen Edern. Cafodd plant Blynyddoedd 2,3 a 4 barti `Mamma Mia`yn Y Ganolfan yn Nefyn a chynhaliwyd parti Blynyddoedd 5 a 6 yng ngwesty`r Nanhoron.
Bu Wythnos Fenter Busnes y plant yn llwyddiannus dros ben. Roedd cardiau Nadolig a luniodd plant Blwyddyn 6, llyfrau risetiau a luniodd plant Blwyddyn 5, calendars plant Blwyddyn 3 a 4, perlysiau o`r ardd a werthwyd gan blant Blynyddoedd 2 a 3 a phapur Nadolig a thagiau anrhegion a luniwyd gan blant Blynyddoedd 1, Derbyn a Meithrin yn tynnu sylw`r rhieni at eu stondinau gwerthu. Roedd eu holl waith caled yn llwyddiant mawr.
Teithiodd plant Blwyddyn 6 i Londis ac i Blas Madryn i ganu carolau.
Byddant yn canu ym Mlas Hafan yn gynnar ym mis Ionawr oherwydd prysurdeb y Nadolig ar hyn o bryd.

Derbyniwyd rhoddion i`r ysgol unwaith eto a gwerthfawrogwn garedigwydd ein ffrindiau - £250.00 gan Mr Knowles (yn dilyn Bingo a Chwist wythnosol yn yr ysgol) a £50.00 gan drigolion Plas Madryn, Morfa Nefyn.
Diolch unwaith eto i Susie ac Anti Nia am gynnal gwasanaethau gyda`r plant. Roedd yn braf cael cerdded i`r Eglwys unwaith eto iwasanaeth yno o dan arweiniad Susie.
Mae plant Blwyddyn 1 wedi bod yn brysur yn nofio`n Ganolfan Hamdden Dwyfor y tymor hwn. Roedd Miss Evans yn eu canmol am eu bod yn ymdrechu o ddifrif.
Erbyn hyn mae pump o blant (Saesneg Iaith gyntaf) a fu`n Ganolfan Iaith, Llangybi wedi dychwelyd yn ôl i Ysgol Nefyn.

Er fod tua pump ar hugain o blant yn absennol o`n Gwasanaeth Nadolig yn yr Eglwys oherwydd salwch, roedd perfformiad y plant yn dda iawn. Diolch yn fawr iawn, iawn i chi blant.
Aeth pawb adref o`r ysgol yn teimlo`n llawn ar ôl cinio Nadolig gwerth ei gael gan Anti Eirian a staff y gegin.
Bu rhieni`r ysgol yn gefnogol iawn inni fel arfer yn Ysgol Nefyn. Rydym yn datgan ein diolch iddynt am eu cefnogaeth inni fel staff bob amser.


 

Albwm Lluniau Tachwedd 2008 ~ Cliciwch yma

Newyddion o Ysgol Nefyn, Tachwedd 2008

Roedden ni’n Ysgol Nefyn yn croesi’n bysedd y mis diwethaf ac yn gobeithio ennill gwobr ‘Cadw Cymru’n Daclus’. Ysgol Uwchradd yn Fflint enillodd ond fe ddaeth ysgol Nefyn yn gydradd ail (gydag ysgol Uwchradd arall). Cawsom ddiwrnod da iawn yng Nghaerdydd, bwyd blasus a thystysgrif mewn ffrâm i’w dychwelyd i’r ysgol.
Bu dosbarthiadau yn brysur yn gweithio’n y gymuned unwaith eto. Aeth plant y Cyngor Ysgol i ddidanu aelodau Clwb Pensiynwyr Nefyn gyda Anti Lis (aelod o’r Heddlu).
Bu plant Blynyddoedd 5 a 6 yn cymeryd rhan yng ngwasanaeth Sul y Cofio’n yr Eglwys. Bu plant Blynyddoedd 3, 4, 5 a 6 wrth y gofgolofn mewn gwasanaeth i gofio am y milwyr a laddwyd yn y rhyfel.
Cyfle i wneud ffrindiau a mwynhau oedd diwrnod Rygbi Blwyddyn 3 a 4 a diwrnod Rygbi Blwyddyn 5 a 6. Aeth plant o bob ysgol yn y dalgylch yno i gael hwyl.
Daeth llawer o rieni i’r p’nawn coffi a drefnodd plant Blwyddyn 6 ar Ddiwrnod Plant mewn Angen. Casglwyd £502 tuag at yr achos.
Daeth y plant a 60 o focsus esgidiau’n llawn anrhegion i blant bach mwy anffodus na ni. Rydym yn siwr y bydd llawer un yn gwirioni wrth edrych ar gynnwys y bocsus, dros y Nadolig, yn y gwledydd tlawd.
Diolch i genod y Bingo am rodd o £200 tuag at ein parti Nadolig eleni- Rhywbeth i edrych ymlaen ato.
Bu Anti Susie ac Anti Nia’n cynnal gwasanaethau’r mis hwn eto. Rydym yn edrych ymlaen am gael teithio i’r Eglwys a’r Capel i wasanaethau bore cyn diwedd y tymor (o dan arweiniad Anti Susie a’r Parchedig Robert ap Roberts).
Diolch i Anti Chirstine sy’n gweithio’n Asda pwllheli am wisgoedd i’r plant ieuengaf ar gyfer ein gwasanaeth Nadolig yn yr Eglwys eleni. Diolch hefyd am y cracer Nadolig i holl blant Ysgol Nefyn.


Eleni mae plant a staff yr ysgol wedi llenwi 60 bocs esgidiau ar gyfer `Operation Christmas Child.
Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cyfrannu

Llun gan Dewi Wyn

Rhai o ddisgyblion yr ysgol wrth y Gofeb ar Dachwedd 11eg

Llun gan Dewi Wyn


  • Adroddiad Blynyddol Llywodraethwyr i Rieni...cliciwch yma
  • Llythyr - Cyfarfod Blynyddol y Llywodraethwyr i gyflwyno Adroddiad i Rieni...cliciwch yma

Disgyblion Blwyddyn 6 fu`n cynrychioli`r Ysgol fel Terfynwyr yn Seremoni Wobrwyo `Cadw Cymru Daclus` yng nghaerdydd ar ddydd Llun Tachwedd 17eg 2008

Genethod Blwyddyn 6 - trefnwyr Ffair Plant Mewn Angen i`r disgyblion a`r rhieni gyda siec am £502.36 a gasglwyd at yr achos.

Dyma ddisgyblion Blynyddoedd 3 a 4 fu`n llwyddiannus yn Nhwrnament Rygbi`r Dalgylch yng Nghlwb Rygbi Bodegroes ar ddydd Mawrth Tachwedd 4ydd.


Dyma disgyblion blynyddoedd 5 a 6 fu'n llwyddiannus yn nhwrnament rygbi'r dalgylch yng Clwb Rygbi Bodegroes.



Albwm Lluniau Hydref 2008 ~ Cliciwch yma
Newyddion o Ysgol Nefyn - Hydref 2008

Cafodd plant ieuengaf yr ysgol ddiwrnod gwerth ei gael pan gawson nhw eu ffilmio ar gyfer rhaglen `Cyw`ar y teledu, gafodd ei darlledu yn ystod gwyliau Diolchgarwch. Roedd eu cornel Hydrefol yn werth ei weld.
Teithiodd plant Blynyddoedd 2,3, a 4 i Blas Glyn y Weddw i astudio gwaith Celf ac i Gefnamwlch i sylwi ar y gwartheg yn cael eu godro fel rhan o`u hastudiaethau Dyniaethau er mwyn cymharu godro heddiw a godro`n y gorffennol.
Hefyd cynhaliwyd prynhawn coffi gan blant Blynyddoedd 2,3 a 4 pan wahoddwyd rhieni i`r ysgol. Talwyd £1 am fynediad ac aeth yr elw o £102 tuag at gostau hyfforddiant i ffermwyr gwledydd tlawd y byd ac i brynu adnoddau yno e.e. coed, ffrwythau. (Ymgyrch Cymorth Cristnogol).
Daeth ffrindiau atom fel arfer. Anti Susie a`r Parchedig Robert Roberts i gynnal gwasanaethau a Mr Meurig Williams (aelod o`r Heddlu) i drafod ymddygiad yn y gymuned gyda Blynyddoedd 5 a 6, ymddygiad ar Noson Calan Gaeaf gyda Blwyddyn 4 a pheryglon cyffuriau gyda Blwyddyn 2.
Bu Blwyddyn 5 yng Nghapel Isa`n gwrando ar y Parchedig Robert Roberts yn trafod bywyd y capel a chymharu Capel ac Eglwys.
Bu aelodau`r Cyngor Ysgol yn paratoi ar gyfer eu hymweliad â`r `Bobl Hŷn` gyda Anti Lis (aelod o`r Heddlu). Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal ym mis Tachwedd a bydd plant yr ysgol yn canu yno hefyd.
Diolch i`r holl rieni a ddaeth atom i`r noson Gaws a Gwin a drefnwyd gan Gymdeithas Rhieni`r Ysgol. Roedd gan Gill ddigon o fagiau llaw a gemwaith crand ac roedd Eryl yn brysur gyda`i chynnyrch `Body Shop`.
Llongyfarchiadau blant am gael eich dewis i fynychu seremoni wobrwyo gwobr
`Cadw Cymru`n Daclus` sy`n cael ei chynnal yng Nghaerdydd y mis nesaf. Rydan ni`n croesi`n bysedd ac yn gobeithio yr enillwn y wobr gyntaf yno.


 
Albwm Lluniau Medi 2008 ~ Cliciwch yma
Newyddion o Ysgol Nefyn, Medi 2008

Croeso’n ôl i bawb ar ôl gwyliau’r Haf- er na fu’r tywydd yn braf iawn inni. Mae 12 o blant bach newydd wedi dod atom i’r Dosbarth Meithrin a 4 o blant wedi ymuno â ni i Blwyddyn 4 o Ysgol Morfa Nefyn.

Gan fod y tywydd wedi bod yn sych ac yn heulog wedi inni ail ddechrau’n yr ysgol, mae yna gyfleoedd i weithio tu allan i’r dosbarth wedi digwydd. Bu Blynyddoedd 2, 3, 4, 5 a 6 am daith cerdded ar hyd y traeth i ben yr allt, heibio Pwll William ac yn ôl i’r ysgol gan sylwi ar arwyddion yr Hydref o’u cwmpas ac ar arwyddion llygredd ar y clogwyni wrth y traeth. Aeth dosbarthiadau Blwyddyn 2, 3 a 4 i ymweld â’r gerddi cyhoeddus yn Nefyn gan ddychwelyd i’r ysgol gyda llysiau lleol i’w coginio. Prynwyd llefrith a chaws yn Londis. (Wythnos Bwyd Prydeinig).

Diolch i blant Blwyddyn 5 am gymeryd rhan yng ngwerthu’r nwyddau ail law yn y siop ar y stryd bob prynhawn rhwng Medi’r 2il a Medi’r 5ed. Aiff yr elw tuag at gronfa adeiladu Canolfan Gymunedol i gymeryd lle’r ganolfan bresennol. ‘Roedd yn gyfle gwych i’r plant gymdeithasu, ymdrin ag arian a mwynhau eu hunain.

Aeth y dosbarth cyfan (Blwyddyn 5) ar daith gerdded i Borthdinllaen. ‘Roedd digon o waith arsylwi a chofnodi i’w wneud ac yna bu cyfle i ymweld â Mr Parry yng ngorsaf y bâd achub. Bwriad y dosbarth yw ail ymweld yn fuan yn y dyfodol.

Rydan ni i gyd yn dal i fwynhau gweld Anti Nia’n cyrraedd i gynnal gwasanaethau ac hefyd mae Anti Susie wedi dod atom i gynnal gwasanaeth y mis hwn. ‘Roedd ymweliad Blwyddyn 5 â’r Eglwys a chael cyfle i ofyn cwestiynau iddi’n brofiad gwerthfawr ar ddiwedd ei gwasanaeth inni. Diolch Anti Susie.

Teithiodd plant Blynyddoedd Derbyn, 1 a 2 i Neuadd Dwyfor i weld perfformiad “Llyfr Bach y Plant” oedd yn werth ei weld.

Pan ddaeth Alaw Jones i’r ysgol bu’n sôn am ofalu am anifeiliaid anwes yn y gwahanol ddosbarthiadau. Diolch am gael gweld y gwahanol sleidiau.

Mae plant Blwyddyn 1 yn siwr o fod yn croesi’r ffordd yn ddiogel bob amser gan fod Anti Cheryl yn dod atynt bob bore Llun i ymarfer ar y ffordd fawr o flaen yr ysgol. (Cynllun Kerbcraft).

Diolch i gwmni bwsiau Nefyn am fod yn hael yn talu am wisg pel-droed i’r hogiau. Maent yn edrych yn grand iawn ynddyn nhw. Diolch hefyd i Anti Buddug ac Yncl Joe am brynu cwpan ar gyfer diwrnod mabolgampau’r ysgol. Enillwyr y gwpan eleni oedd Boduan.

Daeth Mr Knowles atom ar ddiwedd Tymor yr Haf gyda rhodd o £300 tuag at yr ysgol (gan glwb y Chwist a’r bingo).

Diolch hefyd i genod y gegin am gyfrannu £100 inni tuag at brynnu stof newydd i goginio ar gyfer y plant (arian Clwb Bingo).

Mae’r Gymdeithas Rhieni’n brysur fel arfer. Croeso mawr i’r aelodau newydd atom. Cofiwch rieni ymuno â ni mewn noson “Body Shop” a thlysau Gill ar Hydref 23ain, 2008 yn neuadd yr ysgol. Bydd croeso cynnes i bawb ynghyd â chaws a gwin.

Llongyfarchiadau MAWR i holl ddigsyblion Ysgol Nefyn am ennill y Faner Werdd i’r ysgol. (Cynllun Eco-sgolion) Mae ymwenud ag eco-sgolion wedi rhoi cyfle i ni fel unigolion ac ysgol i wir asesu ein rolau o fewn y Gymdeithas a’r byd ehangach, gwerthoedd amgylcheddol fydd yn gallu cael effaith gadarnhaol ar ein dyfodol. Gwneir cysylltiad lu gyda’r gymuned ehangach.

Diolch i Gwmni Bysus Nefyn am brynu gwisg pel droed i`r ysgol
Cliciwch ar y lluniau i'w chwyddo
 
Llongyfarchiadau MAWR i holl ddisgyblion yr ysgol am ennill y Faner Werdd ( Cynllun Eco-Ysgolion)
Cliciwch ar y llun i'w chwyddo
 
Aelodau Boduan - Tim buddugol Diwrnod Mabolgampau`r Ysgol. Diolch i Anti Buddug ac Yncl Joe am brynu`r gwpan ar gyfer y Mabolgampau.
Cliciwch ar y llun i'w chwyddo

 


Gorffennaf 2008


Albwm Lluniau Mehefin 2008 ~ Cliciwch yma
Newyddion Mehefin 2008...cliciwch yma

 

Rhai o ddisgyblion aelodau`r Cyngor Ysgol gyda Anti Lis (aelod o`r Heddlu)
(llun gan Dewi Wyn)

Rhai o ddisgyblion gyda Anti Lis (aelod o`r Heddlu) / Some pupils with Anti Lis (member of the police)


Derbyniodd yr ysgol siec am £233.60 gan londis Nefyn (yr arian a gasglwyd pan oedd staff y siop yn gwisgo gwisg ffansi cyn y Nadolig). Diolch yn fawr iawn.
Hoffwn hefyd ddiolch i Elfed (Perchennog Londis) am ei rodd hael tuag at `Selection Boxes` i holl disgyblion yr ysgol cyn y Nadolig.
Gwerthfawrogwn hyn yn fawr.
(Llun gan Dewi Wyn)

Londis Nefyn


Disgyblion Blwyddyn 6 gymerodd ran yn Nhwrnament Rygbi`r Ddraig yng Nghlwb Rygbi Bodegroes ar ddydd Sadwrn Mai 19fed, 2008.

Twrnament Rygbi`r Ddraig 


Disgyblion Blynyddoedd 5 a 6 gymerodd ran mewn Twrnament Hoci ym mhorthmadog ar Mai 12fed 2008.

Twrnament Hoci
Twrnament Hoci

Bu rhai o ddisgyblion yr ysgol yn llwyddiannus mewn gwahanol weithgareddau yn Sioe Amaethyddol Nefyn ar Ddydd Llun, Mai 5ed 2008.

Sioe Nefyn Sioe Nefyn Sioe Nefyn

Llythyr Gwybodaeth am Ymweliad B5 i Rhyd Ddu - clicwch yma

Llythyr Siop Fel Newydd - clicwch yma

Llythyr Plas Mawr - clicwch yma

Llythyr Ynys Enlli - clicwch yma

Llythyr Sioe Carys Ofalus, Ysgol Botwnnog - clicwch yma

Llythyr Rygbi`r Ddraig - cliciwch yma

Llythyr Clwb Theatrig - Haf 2008 - cliciwch yma

Llythyr Rhyd Ddu Blwyddyn 5 - cliciwch yma


 

Newyddion o’r ysgol - Mis Ebrill 2008

Cafodd plant Blynyddoedd Meithrin a Derbyn hwyl a sbri ar eu taith i ben yr allt yn Nefyn ac o gwmpas rhan o’r dref.
Roedd yn gyfle i drafod ac i sylwi ar wahanol adeiladau o’u cwmpas.
Miss Llinos Jones a Miss Lowri Lloyd-Jones oedd yn arwain y weithgaredd.
Mae’r plant yn mynd i golli’r ddwy ohonynt pan fyddant yn ein gadael.
Llongyfarchiadau i blant Blwyddyn 5 a gymerodd ran ar y radio (ar raglen Post Cyntaf). Buont yn sôn am ran Ysgol Nefyn yn y gwaith ailgylchu ac edrych ar ôl eu hamgylchfyd. Bu Angharad Gwenllian sy’n gweithio i Cyngor Gwynedd yn trafod pwysigrwydd ailgylchu yn yr holl ddosbarthiadau yn eu tro ac roedd canmoliaeth mawr i’w gwaith gyda’r plant hefyd.

Erbyn hyn mae plant Blwyddyn 6 wedi cael treulio diwrnod yn Ysgol Botwnnog ac wedi cael blas ar yr hyn sy’n eu haros yno ym mis Medi. Dychwelodd pawb i’r ysgol gyda gwên ar eu hwynebau. Mi fydd yna hen edrych ymlaen i gael mynd i ysgol Botwnnog rwan!
Bu ymweliad Mr Meurig Williams, aelod o’r Heddlu yn werthfawr iawn i blant Ysgol Nefyn i gyd. Treuliodd amser ymhob dosbarth yn trafod iechyd a diogelwch pan mae’r plant yn defnyddio ffonau symudol a mynd ar y cyfrifiadur. Mae’r plant yn adnabod Mr Williams yn iawn gan ei fod yn dod atom yn aml.
‘Rydan ni’n lwcus iawn yn ysgol Nefyn gan fod Duffy’n un o’n cyn-ddisgyblion.
Bu “Uned 5” yn yr ysgol yn ein holi am Duffy pan oedd yn ddisgybl yn yr ysgol.
Bydd rhaglen ar Duffy’n ymddangos ar y teledu’n y dyfodol agos.
‘Roedd plant Blynyddoedd 3 a 4 wrth eu boddau pan ddaeth Mr John Dilwyn Williams o’r archifdy atynt i sôn am hanes lleol. ‘Roedd yn gyfle i ddysgu tipyn am Nefyn ers talwm.
Cofiwch am Rygbi’r Ddraig fydd yn cael eu gynnal ym Modegroes ar Ddydd Sadwrn, Mai 17eg am 10 o’r gloch y bore.
Hefyd bydd Bingo’n cael ei gynnal yng ngwesty Nanhoron, Nos Wener, yr ail o Fai. Bydd yr elw tuag at gronfa’r Ganolfan newydd yn Nefyn.

 


Llongyfarchiadau i ddisgyblion B1 a B2 ar eu llwyddiant yn y gwersi nofio.

Nofio ~ Bl / Yr 1 + 2

Cliciwch ar y llun i'w chwyddo/lawrlwytho


Llongyfarchiadau i ddisgyblion B3 a B4 ar eu llwyddiant yn y gwersi nofio yn ystod tymor Y Gwanwyn.

Cliciwch ar y llun i'w chwyddo/lawrlwytho


Taith Gerdded Noddedig Cymdeithas Rhieni ac Athrawon Ysgol Nefyn - cliciwch yma.


Llythyr Glanllyn Blwyddyn 6 - cliciwch yma


YSGOL AR AGOR DYDD IAU 24/04/08

Yn dilyn galwad ffôn gyda`r Swyddog Addysg bore heddiw (21-4-08).
BYDD YR YSGOL AR AGOR i ddisgyblion Blwyddyn 5 (Dosbarth Mrs Sian Evans) ddydd Iau nesaf 24-4-08. Gan y bydd Mrs Evans ar gwrs bydd athrawes lanw`n bresennol yn y dosbarth i addysgu`r plant.

 

Newyddion o Ysgol Nefyn, Mawrth 2008

Rydan ni am ddechrau newyddion y mis hwn drwy ddiolch i wahanol bobl. Diolch i’r Gymdeithas Rhieni am drefnu ein Ffair Gwyl Ddewi yn Y Ganolfan. Gwnaed elw o £585.65. Talwyd yr arian i gronfa’r Ganolfan newydd sydd am gael ei hadeiladu yn lle’r ganolfan bresennol.

Diolch i Glwb y Llewod Pwllheli am y siec o £240.00 sydd wedi cyrraedd yr ysgol. Fe ddefnyddiwyd yr arian tuag at gostau’r offer Addysg Gorfforol newydd i’r plant ieuengaf yn yr ysgol.

Bu merched y Bingo’n hael gyda ni unwaith eto. Derbyniom siec o £100 y mis hwn.

Cafodd plant Blynyddoedd 1 a 2 ddiwrnod arbennig pan aethon nhw am dro i Lanberis gan ddechrau cerdded llwybr yr Wyddfa a galw i werthfawrogi gwaith Kyffin Williams. Yna bu cyfle i deithio ymlaen i Fedgelert i weld y bedd a’r cerflun o Gelert.

‘Roedd cyfle i gymdeithasu â phlant o ysgolion eraill pan aeth plant o flynyddoedd 3 a 4 a plant blynyddoedd 5 a 6 i chware hoci i’r Ganolfan Hamdden ym Mhwllheli. Gwnaed llawer o ffrindiau newydd.

Llongyfachiadau i Gwenno, Ffion, Beth, Nia ac Ifan. Cymerodd y pump ohonynt ran yng nghystadleuaeth Pencampwriaeth Cymru ym Mangor. Trefnwyd y diwrnod gan Gymdeithas Gymnasteg Ysgolion Eryri.

Llongyfarchiadau hefyd i barti Cerdd Dant yr ysgol am ennill yr ail wobr yn Eisteddfod yr Urdd ym Mangor.

Rydym yn falch fod y camau cyntaf tuag at gael ‘llwybrau diogel’ i’r ysgol ar fin cychwyn. Bydd un llwybr yn rhedeg o Stâd Holbwr, drwy’r cae at yr ysgol. Bydd llwybr arall o ganol y dref i fynu Lleiniau ac i’r ysgol, yn rhan o’r cynllun bydd man cadw beiciau. Bydd croesfan newydd o flaen y mynediad Ysgol Nefyn. Felly bydd llai o berygl i’r plant gerdded i’r ysgol.
Croesawn Lowri atom fel myfyrwraig. Gan y bydd gyda ni am weddill y flwyddyn rydym yn siŵr y bydd yn anodd iawn ganddi’n gadael.


 

Llythyr Caniatâd i rieni - Ymweliad â Ysgol Botwnnog


 

Tesco Sports for Schools' 2008

Disgyblion Blwyddyn 6 yn arddangos bibiau pel rhwyd a pheli pel droed a dderbyniodd yr ysgol ar ol casglu tocynnau `Tesco Sports for Schools'

`Tesco Sports for Schools' 2008
`Tesco Sports for Schools' 2008
Cliciwch ar y lluniau i'w chwyddo/lawrlwytho

Dyma ddisgyblion Blynyddoedd 5 a 6 fu`n llwyddiannus yn Nhwrnament Hoci`r Dalgylch yng Nghanolfan Hamdden Dwyfor ar dddydd Mawrth, Mawrth 18fed 2008.

Twrnament Hoci`r Dalgylch yng Nghanolfan Hamdden Dwyfor
Twrnament Hoci`r Dalgylch yng Nghanolfan Hamdden Dwyfor
Twrnament Hoci`r Dalgylch yng Nghanolfan Hamdden Dwyfor

Cliciwch ar y lluniau i'w chwyddo/lawrlwytho


 

Rhai o ddisgyblion yr ysgol gymerodd ran ym Mhencampwriaeth Gymnasteg Eryri a gynhaliwyd yn Gaernarfon ar Fawrth 13fed 2008.

Rhai o ddisgyblion yr ysgol gymerodd ran ym Mhencampwriaeth Gymnasteg Eryri a gynhaliwyd yn Gaernarfon ar Fawrth 13fed 2008. 

Cliciwch ar y llun i'w chwyddo/lawrlwytho


Disgyblion yr ysgol gymerodd ran yng nghystadleuaeth Clwb Gymnasteg Ysgol Botwnnog yn ddiweddar

Disgyblion yr ysgol gymerodd ran yng nghystadleuaeth Clwb Gymnasteg Ysgol Botwnnog yn ddiweddar
Disgyblion yr ysgol gymerodd ran yng nghystadleuaeth Clwb Gymnasteg Ysgol Botwnnog yn ddiweddar 
Cliciwch ar y lluniau i'w chwyddo/lawrlwytho

Parti Cerdd Dant yr Ysgol ddaeth yn ail yn Eisteddfod Sir yr Urdd Rhanbarth Eryri 2008

Parti Cerdd Dant yr Ysgol ddaeth yn ail yn Eisteddfod Sir yr Urdd Rhanbarth Eryri 2008

Cliciwch ar y llun i'w chwyddo/lawrlwytho


Pris Cinio Ysgol

Bydd pris cinio ysgol yn codi o Ebrill 7fed 2008, i £1.75 y plentyn.

£1.75 1 diwrnod
£3.50 2 ddiwrnod
£5.25 3 diwrnod
£7.00 4 diwrnod
£8.75 5 diwrnod


 

Llythyr Rhieni- dyddiadau gwyliau'r Pasg a diwrnod HMS - cliciwch yma


Twrnament Hoci B5 a B6  

Gan y bu’n rhaid gohirio’r twrnament oherwydd y tywydd ar ddydd Mawrth, Mawrth 11eg 2008, newidwyd y dyddiad i ddydd Mawrth, Mawrth 18fed 2008.
Bydd y plant angen pecyn bwyd a dillad cynnes addysg gorfforol.
Llawer o ddiolch.

Disgyblion B3 a B4 fu`n llwyddiannus yn Nhwrnament Hoci`r Dalgylch ar ddydd Mawrth, Mawrth 4ydd 2008.

Twrnament Hoci`r Dalgylch yng Nghanolfan Hamdden Dwyfor

Cliciwch ar y llun i'w chwyddo/lawrlwytho


 

 

Diwrnod Y Llyfr - 06/02/08

Ar Fawrth 6ed 2008 cafodd y disgyblion gyfle i ddod i`r ysgol wedi gwisgo fel cymeriadau o`u hoff lyfrau i ddathlu `Diwrnod Y Llyfr`

Diwrnod Y Llyfr - 06/02/08 
Diwrnod Y Llyfr - 06/02/08 
Diwrnod Y Llyfr - 06/02/08 
Diwrnod Y Llyfr - 06/02/08 
Diwrnod Y Llyfr - 06/02/08
Diwrnod Y Llyfr - 06/02/08
Diwrnod Y Llyfr - 06/02/08
Diwrnod Y Llyfr - 06/02/08
Diwrnod Y Llyfr - 06/02/08
Diwrnod Y Llyfr - 06/02/08 
   

 


 

Disgo Anti Jo


Cytundeb Cartref - Ysgol
Cliciwch yma i'w lawr-lwytho


I ddarllen Strategaethau Presenoldeb a Phrydlondeb Ysgol Nefyn - cliciwch yma

Trip i Feddgelert a Llanberis blwyddyn 1 a 2

Dydd Iau, Mawrth 6ed 2008

Llythyr caniatad a mwy o wybodaeth - cliciwch yma



Lluniau Ffair Gwyl Ddewi Ysgol Nefyn

Prysurdeb Noson Goffi Gwyl Ddewi yn Y Ganolfan, nos Fawrth, Mawrth 4ydd 2008

Prysurdeb Noson Goffi Gwyl Ddewi yn Y Ganolfan, nos Fawrth, Mawrth 4ydd 2008 Prysurdeb Noson Goffi Gwyl Ddewi yn Y Ganolfan, nos Fawrth, Mawrth 4ydd 2008 Prysurdeb Noson Goffi Gwyl Ddewi yn Y Ganolfan, nos Fawrth, Mawrth 4ydd 2008
Prysurdeb Noson Goffi Gwyl Ddewi yn Y Ganolfan, nos Fawrth, Mawrth 4ydd 2008 Prysurdeb Noson Goffi Gwyl Ddewi yn Y Ganolfan, nos Fawrth, Mawrth 4ydd 2008 Prysurdeb Noson Goffi Gwyl Ddewi yn Y Ganolfan, nos Fawrth, Mawrth 4ydd 2008
Prysurdeb Noson Goffi Gwyl Ddewi yn Y Ganolfan, nos Fawrth, Mawrth 4ydd 2008 Prysurdeb Noson Goffi Gwyl Ddewi yn Y Ganolfan, nos Fawrth, Mawrth 4ydd 2008  

Cliciwch ar y lluniau i'w chwyddo/lawrlwytho


 

Rhowch y dyddiad yn eich dyddiadur!

Ffair Gwyl Ddewi Ysgol Nefyn

Dydd Mawrth, Mawrth 4ydd, 2008 am 6:30pm
CANOLFAN NEFYN

Cynhelir Ffair Gwyl Ddewi wedi ei drefnu gan Gymdeithas Rhieni Athrawon yr ysgol ar ddydd Mawrth, Mawrth 4ydd yn Y Ganolfan am 6:30 o`r gloch.
Gwerthfawrogwn unrhyw gyfraniadau tuag at y stondinau (cacenau, Tombola, Raffls a theganau bron yn newydd) ac fe’i derbynnir yn ddiolchgar yn yr ysgol o ddydd Llun nesaf hyd fore’r Ffair. Ni fydd stondin dillad ail law eleni. Pris mynediad fydd £2. Bydd rhai eitamu adloniant gan y plant a bydd disgyblion Blwyddyn 6 yn trefnu gweithgareddau.
Os oes rhywun gydag amser i gynnig i helpu`r Gymdeithas Rieni ar y diwrnod yna cysylltwch gyda`r ysgol. Llawer o ddiolch ac edrychwn ymlaen i’ch gweld yn cefnogi’r Ffair yn ôl eich arfer.


Twrnament Hoci B3 a B4  

Canolfan Hamdden Dwyfor, Mawrth 4ydd 2008
Llythyr caniatad - cliciwch yma
(i'w ddychwelyd erbyn dydd Gwener Chwefror 29ain)

Canlyniadau holiaduron ynglyn âg Ysgol Nefyn

Canlyniadau holiadur 'Gwerthuso Gwasanaeth Ysgol Nefyn' (rhieni) - cliciwch yma

Canlyniadau holiadur 'Beth yw eich teimladau am Ysgol Nefyn?' (plant) - cliciwch ym


 

Newyddion o Ysgol Nefyn, Chwefror 2008

Diolch i’r Parchedig Robert Roberts am weithio gyda phlant Blynyddoedd 3 a 4 yn y dosbarth ac yng Nghapel Isa. Testun y gwersi oedd Bedydd a Phererindod. Diolch hefyd i Anti Nia am ddod atom i gynnal gwasanaethau’n y boreau.
Bydd plant yr ysgol yn mwynhau eu cwmni bob amser.

Llongyfarchiadau i aelodau Parti Cerdd Dant yr ysgol am ddod yn fuddugol yn Eisteddfod yr Urdd Pwllheli. Llongyfarchiadau hefyd i’r Parti Unsain am ennill yr ail wobr. Da iawn chi bawb o’r plant a ymdrechodd yn galed mewn gwahanol gystadlaethau yn yr Eisteddfod.

‘Rydan ni wedi bod yn brysur yn casglu arian at gael canolfan newydd. Cafodd ein Ffair Gŵyl Ddewi ei chynnal yn y Ganolfan ar ddydd Mawrth 4ydd o Fawrth, roedd adloniant gan blant yr ysgol ac aelodau Adran yr Urdd Morfa Nefyn ynghyd â thombola, raffles a chacenau. Bu plant Blwyddyn 6 yn brysur yn diddanu pawb gyda gwahanol weithgareddau yn ystod y Ffair.


Cymdeithas Rhieni ac Athrawon Ysgol Nefyn

Cynhelir cyfarfod o`r Gymdeithas ddydd Mawrth, Chwefror 19fed am 6:00pm yn yr ysgol. Croeso cynnes i bawb.


Casglwyd £65.70 gan ddisgyblion a staff Ysgol Nefyn drwy werthu cennin pedr ar gyfer elusen `Marie Curie Cancer Care` yn ystod mis Chwefror 2008.

Marie Curie

Cliciwch ar y llun i'w chwyddo


Canlyniad diwrnod Apêl Clefyd Siwgr

Cafodd pawb drwy’r ysgol wisgo denim am y diwrnod a dod i’r ysgol gyda gwalltiau gwirion. Yna roedd y plant yn talu dirwy o £1 am wisgo denim a dirwy o 50c am y gwalltiau. Roedd yr arian a gasglwyd yn mynd tuag at Ymchwil Clefyd Siwgr. Casglwyd £200 gan y plant a’r athrawon.

Cliciwch ar y lluniau i'w chwyddo.

denim a gwalltiau gwirion 6
denim a gwalltiau gwirion 5.jpg
denim a gwalltiau gwirion 4
denim a gwalltiau gwirion 3
denim a gwalltiau gwirion 2
denim a gwalltiau gwirion

Bag2school

Erbyn hyn mae cwmni “Bag 2 school” wedi casglu’r bagiau duon yn llawn dillad. Edrychwn ymlaen i gael gwybod faint o arian a gawn i’r ysgol wedi i’r cwmni bwyso’r bagiau.


Disgo

Bydd disgo’n cael ei gynnal yn Y Ganolfan yn Nefyn ar Fawrth 14fed. Bydd yr arian a gesglir am gael mynychu’r disgo yn mynd tuag at gostau’r Ganolfan newydd sydd am gael ei hadeiladu yma yn Nefyn yn lle’r Ganolfan bresennol.


Bag2school

Bydd cwmni Bag2school yn casglu deunydd ail gylchu gennym Dydd Mercher Chwefror 6ed am 10.00.a.m. Gofynnwn yn garedig i chi ddarllen y daflen a anfonwyd atoch am fanylion. Byddem yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth yn fawr.


Gwyliau Hanner Tymor

Dydd Gwener Chwefror 8fed – Ysgol yn cau am y gwyliau.
Dydd Llun Chwefror 18fed– Ysgol yn ail agor.


Ysgol ar gau i`r disgyblion

Bydd yr ysgol ar gau i`r disgyblion ar ddydd Llun, Chwefror 4ydd oherwydd bod diwrnod hyfforddiant i`r athrawon.


Apêl Clefyd Siwgr

Yn dilyn cyfarfod o Gyngor Disgyblion Ysgol Nefyn penderfynwyd yr hoffem gyfrannu tuag at Apêl Clefyd Siwgr. Syniad aelodau`r Cyngor yw bod plant ac athrawon yr ysgol yn gwisgo denim ac yn cael dewis gwneud eu gwalltiau`n wirion a thalu dirwy o £1 am wisgo denim a 50c am y gwalltiau dydd Gwener nesaf,1-2-08.
Bydd croeso i`r rhieni gyfrannu tuag at yr apêl drwy anfon eu cyfraniadau mewn amlen. Diolch yn fawr.


 

Newyddion Ionawr 2008

Rydan ni i gyd yn ôl yn yr ysgol wedi mwynhau gwyliau’r Nadolig. Mae ''na bedwar o’n ffrindiau wedi bod yn gweithio efo ni’n yr ysgol yn barod:

Daeth Mr Robert Roberts i Flwyddyn 5 i sôn am “Iesu’n gwella pobl” a bu Anti Nia’n cynnal Gwasanaeth yn y neuadd ar “Fasnach Deg”. Cafodd plant Adran y Babanod, Blwyddyn 3 a Blwyddyn 4 wersi gan Claire Evans ar sut i groesi’r ffordd yn ddiogel.

Bu aelodau’r Cyngor ysgol yn brysur gyda Lis Jones yn cynllunio blychau ar gyfer derbyn llythyrau i Lis os oes unrhyw un gyda mater yn ei boeni. Mae’r plant ‘nawr yn mynd i ddewis y bocs gorau ar y cynlluniau ac yna’n mynd ati i greu’r bocs hwnnw. Caiff ei ddefnyddio yn yr ysgol.


 

Aelodau Cyngor yr Ysgol 2007-2008

Cliciwch ar y lluniau i'w chwyddo/lawrlwytho

Aelodau Cyngor yr Ysgol 2007-2008 Aelodau Cyngor yr Ysgol 2007-2008 Aelodau Cyngor yr Ysgol 2007-2008
Aelodau Cyngor yr Ysgol 2007-2008 Aelodau Cyngor yr Ysgol 2007-2008 Aelodau Cyngor yr Ysgol 2007-2008
Aelodau Cyngor yr Ysgol 2007-2008 Aelodau Cyngor yr Ysgol 2007-2008 Aelodau Cyngor yr Ysgol 2007-2008
Aelodau Cyngor yr Ysgol 2007-2008
Aelodau Cyngor yr Ysgol 2007-2008 
Aelodau Cyngor yr Ysgol 2007-2008 
Aelodau Cyngor yr Ysgol 2007-2008 
Aelodau Cyngor yr Ysgol 2007-2008

 

 

 

 

 

 

 

   
 
Ysgol Gynradd Nefyn, Nefyn, Pwllheli, Gwynedd LL53 6EA

Dylyniwyd gan Delwedd

Plant Y Gymuned Ysgol Rhieni Argraffu E-bostiwch Ni Marciwch Ni Sôn wrth ffrind