Ffliw'r Moch Mae plentyn yn Ysgol Nefyn yn dioddef o `ffliw`r moch`. Derbyniom wybodaeth gan Bennaeth Gwasnaeth Ysgolion a gan y meddyg nad oes angen cau yr ysgol. Gymdeithas Rhieni ac Athrawon Cynhelir cyfarfod o’r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon ddydd Mawrth, Tachwedd 24ain am 6 o’r gloch yn yr ysgol. Croeso cynnes i bawb. Twrnament Rygbi Yn anffodus bu`n rhaid gohirio Twrnament Rygbi Blynyddoedd 3 a 4 ar ddydd Mawrth Tachwedd 10fed oherwydd y tywydd.
Llythyr Sioe Cyw- Cliciwch yma
Edrych ar y ser- Cliciwch yma Newyddion Medi- Cliciwch yma
Roedd plant Blynyddoedd 2,3 a 4 wrth eu boddau pan aethon nhw i Felin Uchaf, Rhoshirwaun i ailfyw bywyd y Celtiaid. ‘Roedd cyfle i bobi bara mewn popty clai, i wehyddu basged o goeden helyg, ac i deimlo naws arbennig wrth wrando ar storiau yn y tŷ Celtaidd. Diolch i Dafydd am ddiwrnod arbennig iawn. Llongyfarchiadau i Thomas John o Flwyddyn 1 sy’n ein gadael i fyw ym Mhwllheli yr wythnos hon. Daeth yn bymthegfed allan o 250 mewn cystadleuaeth rhedeg yn Henffordd yn ystod y penwythnos. Da iawn ti Thomas. Derbyniodd merched y gegin dystysgrif ‘Gwobr Hylendid Bwyd Cymru’ i ardystio bod Ysgol Nefyn wedi cyflawni Safon Efydd- Cydnabyddiaeth am safon hylendid bwyd uchel yn yr ysgol. Bu llwyddiant mawr yn sioe Nefyn eleni. Enillodd disgyblion Blwyddyn 5 y wobr gyntaf am brosiect cywaith i wneud model ar y testun ‘Ein Ardal’ allan o ddefnydd ailgylchu. Ela Mererid- Fy hoff anifail anwes- (ail wobr) Llwyddodd Angharad sydd efo ni o Hyfforddiant Gwynedd i gasglu £50 tuag at elusen cancer “Race for life”. Trefnodd prynhawn pan fu’r plant yn rhedeg rasus cyfnewid a thalu 50 c yr un am gymeryd rhan. Diolch i fyfyrwyr Coleg Meirion Dwyfor am weithio’n galed iawn i gyflwyno gwersi Addysg Gorfforol i blant Blynyddoedd 5 a 6 unwaith yr wythnos. Bydd yn chwith inni ar eu holau.
CYMDEITHAS RHIENI AC ATHRAWON YSGOL NEFYN Cynhelir cyfarfod o`r gymdeithas ddydd Mercher, Ebrill 29ain am 6:00pm yn yr ysgol. Croeso cynnes i bawb.
Disgyblion Blynyddoedd 2,3 a 4 yn dathlu`r Pasg yng Ngholeg y Bala.
Newyddion o Ysgol Nefyn ~ Mawrth 2009Mae pawb yn teimlo’n hapus iawn yma’n Ysgol Nefyn erbyn hyn, gan fod yr Arolwg drosodd a ninnau’n teimlo’n fodlon iawn, manteisiwn ar y cyfle i ddiolch i’r rhieni am eu cefnogaeth i’r ysgol bob amser. Mae ein ffrindiau wedi bod yn gweithio gyda ni fel arfer- Anti Nia yn cynnal gwasanaethau, Anti Lis aelod o’r Heddlu ac Anti Llinos yn gweithio gyda’r plant yn y gymuned yn Nefyn, a’r disgyblion yn derbyn gwasanaeth gan y Parchedig Robert Roberts yng Nghapel Isa. Bu`r arlunydd, Luned Parri yn gwneud gwaith Celf yn y gwahanol ddosbarthiadau. Roedd plant Blynyddoedd Meithrin, Derbyn ac 1 yn creu Pori’r Pry Copyn. Creu cymeriadau fu plant Blynyddoedd 3 a 4, tra bu disgyblion Blynyddoedd 5 a 6 yn creu murlun The Lion, the Witch and the Wardrobe. Rydym yn edrych ymlaen i weld Luned yn dychwelyd atom i weithio gyda phlant blynyddoedd 2, 3 a 5 yn fuan. Hefyd bu Elin Huws yn gwehyddu gyda disgyblion blynyddoedd 2 a 3, a Bethan Williams yn gweithio mewn crochenwaith gyda Blwyddyn 6. Teithiodd plant blynyddoedd Meithrin, Derbyn ac 1 i Neuadd Dwyfor i wylio’r Sioe `Cyw`ac roedd pawb wedi mwynhau eu hunain yn fawr iawn. Fel ysgol sy’n edrych ar ôl yr amgylchedd, roeddem yn gwerthfawrogi cyfraniad Gwenllian pan ddaeth atom i gynnal gweithgareddau yn ymwneud ag ailgylchu yn yr holl ddosbarthiadau. Hefyd daeth gweithwyr o Goleg Glynllifon i blannu coed ar gae’r ysgol. Gan fod y Gwanwyn wedi cyrraedd bydd yn rhaid inni fynd ar afael ar yr ardd a’i thwtio ar ôl y Gaeaf. Daeth Anna Williams i sgwrsio gyda’r plant ieuengaf ynghylch pa gamau i’w cymeryd i’w thacluso ac edrych ar ei hôl. Fel un o weithgareddau y Gwanwyn cafodd plant ysgol Nefyn ddigon o hwyl wrth gymysgu gyda disgyblion ysgolion eraill yn Nhwrnament Hoci`r Dalgylch yng Nghanolfon Hamdden Dwyfor. Mae’n braf gweld y beiciau allan gyda’r tywydd braf a’r sied feiciau newydd yn cael ei defnyddio bob dydd. Rydym yn edrych ymlaen nawr am ein gwibdeithiau yn hwyrach yn y tymor. Mi fydd y £90 a dderbyniom gan Glwb y Bingo o gymorth mawr inni tuag at y costau. Gan fod ysgol Nefyn yn 150 oed bydd y Gymdeithas Rieni a ninnau’n Ysgol Nefyn yn trefnu wythnos o wahanol weithgareddau i ddathlu’r achlysur arbennig. Gobeithiwn y bydd hyn yn digwydd cyn diwedd Tymor yr Haf. Os oes gan unrhyw un o’r darllenwyr luniau o ysgol Nefyn ers talwm byddwn yn falch iawn pe byddai cyfle inni cael eu benthyca. Byddwn yn siwr o edrych ar eu holau a’u dychwelyd yn ddiogel.
Newyddion o Ysgol Nefyn ~ Chwefror 2009Cawsom fis prysur yn Ysgol Nefyn. Roedd Anti Ulla ac Anti Carys wedi mwynhau eu bore’n fawr pan ddaeth y ddwy atom i wylio perfformiad Cwmni’r Fran Wen o “Martha Drafferthus” gyda’r plant bach. Cafodd plant Ysgol Morfa a phlant Ysgol Nefyn hwyl yn cymdeithasu cyn ac yn ystod y bore hefyd. Roedd cyfle i Anti Ulla ac Anti Carys grwydro o gwmpas y dosbrthiadau cyn dechrau’r perfformiad.
Ysgol ar gau i`r disgyblion
Albwm Lluniau Ionawr 2009 ~ Cliciwch ymaNewyddion o Ysgol Nefyn, Ionawr 2009Dyma ni’n ôl yn yr ysgol ers mis bellach a phawb wedi cael gwyliau Nadolig hapus iawn. Mae’n anodd coelio y bydd gwyliau Hanner Tymor yn cychwyn ar Chwefror 16eg.
Cliciwch yma i gael golwg ar yr Archif Newyddion 2008 Cliciwch yma i gael golwg ar yr Archif Newyddion 2009 Cliciwch yma i gael golwg ar yr Archif Newyddion 2010 Cliciwch yma i gael golwg ar yr Archif Newyddion 2011
|
|
|
| Ysgol Gynradd Nefyn, Nefyn, Pwllheli, Gwynedd LL53 6EA |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Gwefan gan Delwedd