Logo Ysgol Nefyn
Ysgol Gynradd Nefyn
Newyddion
Lluniau Diweddaraf o'r Albwm

 

Cliciwch yma i ymweld a'r albwm.

Llythyr Ymaelodi gyda`r Urdd - cliciwch yma
Llythyr Gwasanaeth Nadolig - cliciwch yma
Llythyr Cae`r Gors – B4 a B5 - cliciwch yma
Llythyr Cinio Nadolig - cliciwch yma

Disgyblion Blynyddoedd 1 a 2 yn ymweld â Cae`r Gors Rhosgadfan - cliciwch yma

panto

Panto ‘Myrddin’ i ddosbarth B3 a B4 - Miss Thompson

Cliciwch yma

-------------------------

pudsey Plant Mewn Angen Dydd Gwener, Tachwedd 19
Llythyr gan y Cyngor Ysgol - cliciwch yma

-------------------------

Llythyr Rhieni - clicwch yma

Llythyr Trip Castell Caernarfon Blwyddyn 3 a 4 - cliciwch yma

Wedi i ni fod yn brysur yn yr ysgol am saith wythnos mae gwyliau Diolchgarwch wedi cyrraedd a phawb yn edrych ymlaen am wythnos o seibiant.
Diolch i’r rhieni sydd wedi ymuno gyda’r grŵp “Cynlluniau Teulu”  bob bore Llun o 9:00 dan 11:00 o’r gloch.  Mae croeso i unrhyw riant newydd ymuno gyda  ni. 
Cofiwch ei fod yn gyfle da i gymdeithasu a cyd-weithio, a chael hwyl.
Trafeiliodd disgyblion Blwyddyn 6 i Gae’r Gors (Cartref Kate Roberts) i astudio bywyd y chwarel yn ystod oes Fictoria.
Pan aeth plant Blwyddyn Derbyn yno buont yn defnyddio’u  `synhwyrau` wrth wneud gwahanol weithgareddau diddorol.
Daeth Anti Joy i siarad am elusen `Anno’s Africa`a greodd rhieni Anno er cof am Anno Brikin, cerddor a fu farw mewn damwain car yn 2001 un mis cyn ei benblwydd yn 21 oed. Mae’r ffrindiau’n cynnig cyfleoedd i blant difreintedig -y cyfleoedd creadigol, roedd Anno ei hun yn eu mwynhau. Bydd aelodau’r elusen yn treulio wyth wythnos bob blwyddyn yng ngwlad Affrig yn gweithio gyda phlant mewn gwaith Celf, Drama, Cerddoriaeth a Dawns yn ogystal a sgiliau gwaith syrcas a sgiliau creadigol. Dymuniad disgyblion Blynyddoedd 4 a 5 yw casglu arian tuag at addysg y plant yn ogystal a gadael iddyn nhw wybod ychydig am fywyd plant Ysgol Nefyn.
Un syniad yw anfon eu bocsus anrhegion iddyn nhw eleni ( bocsus esgidiau) tra bo gweddill y bocsus yn mynd i `Operation Christmas Child`.
Y dyddiad casglu’r bocsus o’r ysgol fydd dydd Iau, Tachwedd 18fed.
Llongyfarchiadau i ddau o ddisgyblion Blynyddoedd 4 a 5, sy’n aelodau o’r Cyngor Ysgol am fod yn llwyddiannus yn eu cais i dderbyn cyllid o Gronfa Grant
`Wythnos Ni 2010`.  Bydd £130 yn dod i’r Ysgol ac yn cael ei wario ar brynu adnoddau i’n helpu gyda’n gwaith pan fyddwn yn gweithio gyda gwahanol fusnesau yn y dref.
Mae gennym le i ganmol y disgyblion drwy’r ysgol am dderbyn y `Wobr Aur `am gwblhau cam terfynol Cynllun Ysgolion Gwyrdd Gwynedd ac Ynys Mon 2009 – 2010.
Cymerodd plant yr Ysgol ran yn ein taith gerdded o amgylch Ty`n Pwll a Morfa Nefyn. Diolch i bawb a noddodd y plant a gobeithiwn gasglu o gwmpas £1,000.

Da iawn ti Jac Jones ( o dan arweiniad Gwawr Howel ) a enillodd yr ail wobr yng nghystadlaeath creu logo ar grys t. Cystadlaeath ar gyfer catalog cwmni “Land’s End”. Enillodd £1,000 i’r Ysgol a £150 iddo ef a’i deulu fwynhau gwyliau.
Treuliodd Jac wyliau yn Lego Land.
Mae 11 o ddisgyblion Ysgol Nefyn yn mwynhau eu hunain yn fawr yng ngweithdy drama a cherdd Seren Wib o dan arweiniad Dyfrig Evans bob nos Fercher yn Ysgol Botwnnog- cyfle i gyfansoddi, perfformio a chyfarwyddo.
Bydd ein Ocsiwn Addewidion yn cael ei gynnal yng Ngwesty Nanhoron ar nos Wener Tachwedd 19eg am 7:30- mynediad yn rhad ac am ddim.
Byddem yn ddiolchgar iawn o unrhyw gyfraniad tuag at y noson.
Dewch atom i fwynhau ein hunain.

-------------------------

Ar fore dydd Iau, Hydref 21ain bydd Ffotograffydd yn dod i’r ysgol i dynnu lluniau’r plant
- cliciwch yma

Llythyr Trip Blwyddyn Derbyn i Cae`r Gors - cliciwch yma
Llythyr Taith Gerdded Noddedig i`r disgyblion - cliciwch yma
Ffurflen Noddi - cliciwch yma

-------------------------

Llythyr Bl 6 yn ymweld â Chae'r Gors - cliciwch yma

-------------------------

Llythyr Caniatad Ysgol Nefyn - cliciwch yma

-------------------------

CYMDEITHAS RHIENI AC ATHRAWON YSGOL NEFYN
Cynhelir cyfarfod o`r gymdeithas ddydd Mercher, Medi 29ain am 6:00pm yn yr ysgol. Croeso cynnes i bawb.

--------------------------

Gwybodaeth Disgyblion Blwyddyn Derbyn - cliciwch yma

---------------------------

Llythyr Nofio B6 - cliciwch yma
Llythyr Nofio B4 a B5 - cliciwch yma
Llythyr Nofio B3 a B4 - cliciwch yma

 

Anti Ann  Pob lwc i Anti Ann yn ei swydd newydd yn Ysgol Abersoch.

 

 

mabolgampau 

Llongyfarchiadau i`r ddwy ddisgybl yma fu`n llwyddiannus ym Mabolgampau Urdd y Cylch ym Motwnnog yn ystod mis Mehefin.

 

presennoldeb  Llongyfarchiadau i`r disgyblion yma am fod yn bresennol yn yr ysgol drwy`r flwyddyn.

 

------------------------------------------------------

Newyddion Mehefin a Gorffennaf 2010 - Cliciwch yma

--------------------------

Llythyr diwedd tymor- Cliciwch yma

-------------------------

Disgyblion Blwyddyn 6 yn mwynhau yng Ngwersyll Glanllyn Haf 2010

 

Diwrnod Mabolgampau`r Ysgol Haf 2010 Llongyfarchiadau i Dim Boduan ar eu llwyddiant.

 

Diolch i'r rhieni a'r plant a ddaeth i dacluso Gardd yr ysgol

 

 

Disgyblion Blynyddoedd 5 a 6 yn sgipio tuag at Gymdeithas Clefyd y Galon. Casglwyd £180.Diolch i bawb a gyfrannodd

 

 

Cafodd disgyblion Blynyddoedd 2 a 3 ddiwrnod difyr iawn ym Mhorthdinllaen. Dysgwyd llawer am y Bad Achub

 

 

Disgyblion Blwyddyn 4 yng Nghanolfan Alwen, Cerrigydrudion.

 

 

Llythyr "Diwrnod Y Blynyddoedd Cynnar" i Blant Meithrin- cliciwch yma

Llythyr Ffair Haf - cliciwch yma

Llythyr Trip Hwylfan B1 a BD - cliciwch yma

Llythyr Blwyddyn Meithrin - cliciwch yma

Lllythyr Gwisg Diwrnod Mabolgampau- Cliciwch yma

Llythyr Diwrnod Mabolgampau- Cliciwch yma

Newyddion yr Haf 2010 (Mai) - Cliciwch yma am fwy.

Llythyr cyfarfod Gymdeithas Rhieni- Cliciwch yma am fwy.

Llythyr Twrnament Athletau B3 a B4- Cliciwch yma am fwy.

Llythyr Twrnament Athletau B5 a B6- Cliciwch yma am fwy.

Llythyr ymweld a Gorsaf Bâd Achub, Porthdinllaen i B2 a B3- Cliciwch yma am fwy.

Twrnament Hoci - Cliciwch Yma

Gwyl Gyfeiriannu yng Nglynllifon i ddisgyblion Blwyddyn 6 - Cliciwch Yma

Blwyddyn 6 yn ymweld â Cae`r Gors Rhosgadfan - Cliciwch Yma

Llythyr Sioe Wyddoniaeth B5 a B6 yn Ysgol Botwnnog - Cliciwch Yma

Llythyr dyledion Rhyd Ddu - B5-Cliciwch yma

Offer angenrheidiol i ymweliad Rhyd Ddu - B5-Cliciwch yma

Llythyr Glanllyn - B6-Cliciwch yma

Llythyr Ganolfan Alwen - B4-Cliciwch yma

Llythyr garddio-Cliciwch yma


Disgyblion B5 a B6 gymerodd ran yn Nhwrnament Hoci a drefnwyd gan yr Urdd ym Mhorthmadog ar Ddydd Mercher Ebrill 28ain.



Llythyr Plas Mawr a Chastell Gwydir - B5- Cliciwch yma

Llythyr Rhyd Ddu - B5- Cliciwch yma

Llythyr Cae`r Gors - B5 - Cliciwch yma

Llythyr Taith Gerdded Noddedig Rhieni (Mis Mai)- Cliciwch yma

Llythyr pris arian cinio- Cliciwch yma

Disgyblion Blwyddyn 4 wedi llwyddo i redeg rhwng 4km a 7km yr un ar gyfer `Sports Relief` Diolch i Elfed Roberts, perchennog Londis Nefyn am gyfrannu £100 tuag at yr achos.

Llun gan Dewi Wyn

Llongyfarchiadau i`r disgybl yma o Flwyddyn 4 oedd yn aelod o`r tim ddaeth yn 1af yn y Twrnament Rygbi ac yn 2ail yn y Twrnament Hoci a gynhaliwyd yng Nghlwb Chwaraeon Bodegroes ar Fawrth 9fed 2010.

Parti Llefaru`r Ysgol ddaeth yn 3ydd yn Eisteddfod Sir yr Urdd 2010

Cor yr ysgol ddaeth yn 3ydd yn Eisteddfod Sir yr Urdd 2010

Penwaig Mawr - Parti Unsain yr ysgol fu`n cystadlu`n Eisteddfod yr Urdd Cylch Llyn 2010

Penwaig Bach - Parti Unsain yr ysgol fu`n cystadlu`n Eisteddfod yr Urdd Cylch Llyn 2010

Llongyfarchiadau i ddisgyblion Blynyddoedd 4,5 a 6 a gymerod ran yn y Gala Nofio yng Nghanolfan Hamdden Dwyfor ar Ddydd Gwener Mawrth 26ai 2010




Disgyblion a gymerodd ran yng Nghystadleuaeth Gymnasteg Eryri 2010.

 


 

Llongyfarchiadau i`r disgyblion yma o B5 a B6 a ddaeth yn gyntaf ac yn ail yn Nhwrnament Rygbi a Hoci`r Dalgylch a gynhaliwyd yng Nghlwb Bodegroes ar Fawrth 16eg 2010.

 


Bu ffrindiau’n gweithio efo ni’n Ysgol Nefyn fel arfer. Cafodd yr holl ddisgyblion gyfle i weithio gyda Anti Gwenllian a ddaeth atom i drafod pwysigrwydd ail gylchu a pha gamau a ddylem eu cymeryd.
Daeth Meurig Williams, aelod o’r heddlu at y plant i drafod cyffuriau a’u peryglon. Bydd pawb yn sicr o gofio’r hyn a ddysgwyd.
Roedd plant Blynyddoedd 3,4,5 a 6 yn edrych ymlaen yn fawr am ddiwrnodau rygbi a hoci’r dalgylch. Llongyfarchiadau i’r holl ddisgyblion a lwyddodd i fod yn aelodau o’r tim a enillodd. Er hynny roedd pawb yn datgan eu bod wedi cael diwrnod wrth eu boddau – ennill neu beidio.
Erbyn hyn mae cyfarfod ‘Cynllun Teulu’ a oedd yn cael eu cynnal ar foreau Llun wedi gorffen. Bu llawer o gyfleoedd gwahanol  - ymweld a’r Archifdy, Oriel Plas Glyn y Weddw, y Llyfrgell a thrip i Feddgelert. Hefyd daeth aelod o’r Groes Goch a dau aelod o’r  Heddlu i’r cyfarfodydd i sgwrsio gyda’r rhieni. Bydd croeso cynnes i unrhyw riant sy’n dymuno mynychu’r cyfarfodydd a fydd yn ail gychwyn ar ôl gwyliau’r Pasg ddod atom. (mwy o fanylion i ddilyn).
Mae disgyblion Blwyddyn 6 yn saff ar eu beiciau ar y ffordd fawr erbyn hyn. Maent wedi derbyn dwy wers ar farchogaeth yn saff yn barod o dan arweiniad Adam Hall.
Amser da iawn gafodd disgybion Blwyddyn 5 ar fferm Cae’r Graig Efailnewydd, pan dreulion nhw ddiwrnod cyfan yno. Roedd cyfle i ddysgu am hen greiriau’r  gorffennol, am fagu defaid a gwartheg ar y fferm ac i ddyfalu beth oedd enwau’r caeau wrth deithio o amgylch y fferm.

Llongyfarchiadau i’r rhai a fynychodd y Gala Nofio ym Mhwllheli ac rydym yn falch mai Ysgol Nefyn  enillodd yr ail wobr.
Fel arfer aeth disgybion Blwyddyn 5 a 6 i dreulio’r diwrnod yng Ngholeg y Bala’n ailfyw wythnos y Pasg. Diolch i’r criw am ddiwrnod da iawn ac am ddigon o gyfle i actio a gwneud gwaith ymarferol drwy gydol y dydd.
Mae 26 o ddisgyblion Blwyddyn 6 wedi treulio amser yn cael blas ar fywyd Ysgol Botwnnog a 2 o’r disgyblion wedi wynebu’r un profiad yn Ysgol Glan y Môr. Fe fydd hi’n llawer haws mynd yno ym mis Medi nawr.
Casglwyd £100 i’r ysgol gan Y Gymdeithas Rhieni pan gynhaliwyd prynhawn coffi a chyngerdd (Eitemau’r Urdd) yng Ngwesty Nanhoron. Diolch i Linda, y perchennog am adael inni ddefnyddio’r ystafell yno’n ddi-dâl ac am roi diod i’r plant a gymerodd ran yn ystod y prynhawn.
Ychydig iawn o blant Ysgol Nefyn a beidiodd a gwisgo i fyny fel cymeriad o lyfr ar “Ddiwrnod y Llyfr.” Roedd yn anodd iawn penderfynu pwy oedd y goreuon.
Mae Clwb y Bingo wedi bod mor hael ag erioed  gyda ni.Rydym newydd dderbyn £100 unwaith eto ganddynt. Diolch yn fawr iawn ichi i gyd.
BETH AM YMUNO GYDA NI YN EIN TAITH GERDDED AR FAI Y CYNTAF I GASGLU ARIAN I YSGOL NEFYN? MAE’R TAFLENNI NODDI AR GAEL YN YR YSGOL.


Llythyr Ymweliad a Choleg Bala - cliciwch yma


Prynhawn Coffi-Dydd Iau 25/3- Poster- Cliciwch yma

Prynhawn Coffi-Dydd Iau 25/3- Llythyr- Cliciwch yma


Llythyr Gala Nofio Dwyfor - Cliciwch yma

Blwyddyn 5 yn ymweld â Fferm Cae`r Graig, Efailnewydd (Llythyr)- Cliciwch yma


Newyddion Ysgol Nefyn- Chwerfor /Mawrth- Cliciwch yma


Llythyr Twrnament Rygbi a Hoci B5 a B6- Cliciwch yma


Llawlyfr Ysgol Cymraeg- Cliciwch yma
Llythyr Adroddiad Blynyddol i Rieni- Cliciwch yma
Adroddiad Blynyddol i Rieni- Cliciwch yma
Llythyr cyfarfod Gymdeithas Rhieni ac Athrawon- Cliciwch yma

Llythyr Twrnament Rygbi a Hoci - B3 a B4- Cliciwch yma am fwy

Llythyr Dydd Gwyl Dewi- Cliciwch yma

Trip Bl.5 i Hufenfa De Arfon(Llythyr)- Cliciwch yma


 

 


Disgyblion yr ysgol yn mwynhau gweithgareddau a drefnwyd gan ddisgyblion Blwyddyn 6 i godi arian at Apel Haiti. Casglwyd £400. Diolch i bawb.

 

Disgyblion Blynyddoedd 4,5 a 6 gyda`u tystysgrifau nofio.

Llythyr Gwersi Nofio BD a B1- Cliciwch yma
Llythyr Gwersi Nofio B2 a B3- Cliciwch yma

Cliciwch yma i gael golwg ar yr Archif Newyddion 2008

Cliciwch yma i gael golwg ar yr Archif Newyddion 2009

Cliciwch yma i gael golwg ar yr Archif Newyddion 2010

Cliciwch yma i gael golwg ar yr Archif Newyddion 2011

 

 

Hysbysfwrdd

Croeso i
Archif Newyddion
2010


   
 
Ysgol Gynradd Nefyn, Nefyn, Pwllheli, Gwynedd LL53 6EA

Gwefan gan Delwedd

Plant Y Gymuned Ysgol Rhieni Argraffu E-bostiwch Ni Marciwch Ni Sôn wrth ffrind