Mae Ysgol Nefyn yn gwasanaethu’r dref a’r ardal wledig gyfagos gyda phlant o bentrefi Pistyll, Llithfaen a Morfa Nefyn (ar ddechrau Blwyddyn 4) hefyd yn ei mynychu. Daw mwyafrif o’r disgyblion o gartrefi sy’n siarad Cymraeg ar yr aelwyd.
Cynhaliwyd arolygiad diweddaraf yr ysgol yn ystod Tymor y Gwanwyn 2009. Cliciwch yma i weld copi o'r adroddiad.
Mae’r ysgol wedi buddsoddi’n helaeth yn y dechnoleg ddiweddaraf gyda Bwrdd Gwyn Rhyngweithiol ymhob dosbarth ac ystafell gyfrifadurol o ddeg cyfrifiadur a Bwrdd Gwyn.
Mae’r ysgol wedi cwblhau Cam 4 fel Ysgol Iach ac wedi llwyddo ynddo. Rydym hefyd wedi llwyddo i dderbyn y wobr aur fel Ysgol Werdd.
Dyma rai enghreifftiau o brif flaenoriaethau`r Ysgol :-
Gwrando ar blant – Ysgol Gyfeillgar at Ddyslecsia
Ymgyfarwyddo â`r Cyfnod Sylfaen a Chwricwlwm 2008
Ymestyn plant galluog
Asesu ar gyfer dysgu ymhob dosbarth
Defnyddio`r amgylchfyd i gyfoethogi`r addysgu a`r dysgu
Adnabod grwpiau targed
Mae’r Llywodraethwyr, staff a’r rhieni yn gefnogol dros ben i’r ysgol ac yn awyddus i’w gweld yn gwella ymhellach gan barhau
yn rhan fyw o gymuned glos Nefyn a Phenllyn.