|

Lluniau Diweddaraf o'r Albwm
Cliciwch yma i ymweld a'r albwm.
Newyddion Ysgol Nefyn Ionawr 2012
Erbyn hyn ‘rydym wedi cychwyn clwb misol yn Ysgol Nefyn ac mae 127 o aelodau. Mae croeso i unrhyw un ymuno â’r clwb ond i chi ffonio’r ysgol (rhif ffôn ysgol Nefyn – 01758 720765).
Enillwyr Ionawr 2012 yw –
1af – Elen Owen (Morfa Nefyn).
2ail – Ann Williams (Porthmadog).
3ydd – Jane Seyler (Kent).
Croeso cynnes i’r myfyrwyr sydd wedi ymuno gyda ni yn Nhymor y Gwanwyn 2012. Bydd Jessica a Sioned o Goleg Meirion Dwyfor yma gyda ni ar Ddydd Gwener yn helpu’n y dosbarthiadau. Mae Ceri Ellen Jones Evans a Catrin Mai Evans, dwy fyfyrwraig o’r Brifysgol yn gweithio gyda ni am saith wythnos hefyd (Roedd y bara cri a gafodd eu coginio gan y Babanod gyda Ceri’n flasus iawn!) Daeth ffrindiau atom i’n helpu ar ddechrau’r tymor eto – Bu Anti Nia ac Anti Susie’n cynnal gwasanaethau crefyddol.
Cafodd disgyblion yr holl ddosbarthiadau gyfleoedd i gymeryd rhan mewn chwarae gemau, gweithio fel aelodau o weithdai, gwneud arbrofion gyda dŵr, a dysgu am wahanol ddulliau o beidio gwastraffu dŵr. Daeth Claire Jones Yr Alwen (Dŵr Cymru) i ddysgu’r plant am y diwrnod.
Cafodd Paula Owen, Swyddog Diogelwch y Ffyrdd sgwrs gyda dau o Swyddogion Blwyddyn 6 sef Rhydian a Non.
Bydd P.C Jones yn brysur iawn yn cydweithio’n y gwahanol ddosbarthiadau yn ystod gwahanol ymweliadau . Y testunau yw “Pobl sy’n helpu” (Blwyddyn Derbyn), Moddion (Blwyddyn 1 a 2), Dieithriaid (Blynyddoedd 3 a 4), Effaith Alcohol (Blwyddyn 5) ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (Blwyddyn 6).
Mae ‘na edrych ymlaen o ddifrif i gael cymeryd rhan a pherfformio’n sioe yr Urdd, Eisteddfod yr Urdd Glynllifon yn ystod gwyliau’r Sulgwyn 2012. Mae’n braf gweld Mr Ken Hughes, cyn Bennaeth Ysgol Eifion Wyn Porthmadog yn galw’n yr ysgol i ddechrau trefnu ar gyfer hyfforddi’r plant.
Daeth Mamma B, Anti Joy a Gareth Brown at ddisgyblion Blynyddoedd 4 a 5 a Blwyddyn 6. Cawsom wybod llawer am y gwaith caled o arwain ysgol yn Kibera Slum am 3 mis y flwyddyn. ‘Roedd yna luniau inni eu hastudio ar y bwrdd gwyn yn ogystal ag enghreifftiau o waith celf y disgyblion yno. ‘Rydym yn gynhyrfus iawn gan y bydd rhai o ddisgyblion y wlad yn dwad atom i gyd-weithio’n ysgol Nefyn ac i gymeryd rhan yn yr Eisteddfod yr Urdd yn ystod gwyliau’r Sulgwyn. ‘Rydym wedi gefeillio gyda disgyblion yr ysgol yn Kibera.
Mae disgyblion Blwyddyn 4 a 5 wedi mwynhau gweithio gyda Tegid Williams ac Anita Daimond o dan arweiniad Juls mewn gwaith Celf. Bu taith addysgol i Gaergybi lle y cawsom astudio’r porthladd yno.
Daeth John Cave sydd wedi arfer gweithio gyda Stenna i gyflwyno gwybodaeth pellach i ni. ‘Roedd yn ddiwrnod llawn hwyl ac yn ddiddorol dros ben.
Croeso i ddau o ddisgyblion newydd atom yn ysgol Nefyn -Olivia (Blwyddyn Derbyn) ac Emily (Blwyddyn 4).
Bu dathliadau’r wythnos Tseiniaidd mewn mwy nag un dosbarth wrth i’r disgyblion ymchwilio i’r math o ddathliadau sy’n cymeryd rhan yno’n ystod y flwyddyn newydd a blasu gwahanol fwydydd.Cafodd disgyblion Blynyddoedd 1 a 2 ddysgu ac actio am y “Fari Lwyd” gan deithio o gwmpas y gwahanol ddosbarthiadau’n adrodd a chanu hen benillion.
Diolch i’r disgyblion am ddangos digon o ddiddirdeb i fynychu Cyfarfodydd yr Urdd ar ôl ysgol ar brynhawniau Llun i gystadlu mewn gwaith Celf ac i gael eu hyfforddi mewn adrodd a chanu ar gyfer yr Eisteddfod. Bydd clwb Addysg Gorfforol yn cychwyn ar brynhawniau Mawrth ar ôl ysgol ar ôl gwyliau Hanner Tymor.
-----------------------------------------------
Dyddiadur Digwyddiadau 2012 - cliciwch yma
Llythyr Cynllun Teulu - cliciwch yma
-----------------------------------------------
Llythyr Dim Clwb Urdd - cliciwch yma
-----------------------------------------------
Ysgol ar gau i`r disgyblion Dydd Llun Ionawr 30ain
Llythyr HMS a Gwyliau Hanner Tymor - cliciwch yma
-----------------------------------------------
Gwersi Nofio
Bydd disgyblion Blynyddoedd 1 a 2 (dosbarth Mrs Howel) yn mynd i nofio yn y prynhawniau o ddydd Mercher Ionawr 11eg ymlaen - cliciwch yma
Bydd disgyblion Blynyddoedd 3 a 4 (dosbarth Miss Thompson) yn mynd i nofio yn y boreau o ddydd Mercher Ionawr 11eg ymlaen - cliciwch yma
Blynyddoedd 4 a 5 yn ymweld â Chaergybi, Ynys Môn
Bydd disgyblion Blynyddoedd 4 a 5 (dosbarth Mrs Evans) yn ymweld â Chaergybi, ynys Môn ar ddydd Llun Ionawr 9fed fel rhan o`u hastudiaethau Dyniaethau - cliciwch yma
NEWYDDION TYMOR YR HYDREF O YSGOL NEFYN
Croeso i Dylan Roberts atom fel athro newydd Blwyddyn 6. Rydym yn siwr y bydd wrth ei fodd efo ni’n ysgol Nefyn.
Mi fu Anti Susie yma’n cynnal gwasanaeth dwywaith yn ystod y mis. Hefyd cawsom wasanaeth Diolchgarwch diddorol ganddi’n yr Eglwys. Bu yna gyfle i rai o ddisgyblion yr ysgol gymeryd rhan yn ei gwasanaeth hefyd.Diolch i chi Anti Susie.
Diolch i Gwawr Williams am ddod atom i siarad am beryglon tân yn y cartref. Roedd cyfleoedd i wisgo’r dilladau, yr helmed ac i brofi’r larwm mwg.
Mi fu’r rhieni a theuluoedd y plant yn brysur yn cael gwared o ddilladau cyn y Gaeaf a daeth ffrindiau Antur Waunfawr atom i’w casglu. Gan fod ychydig o fagiau wedi cyrraedd atom ar ôl y p’nawn casglu mae croeso i unrhyw un ail edrych i wneud yn siwr nad oes gennych fwy o ddilladau i gael gwared ohonynt. Bydd ffrindiau Antur Waenfawr yn galw eto i gasglu gweddill o’r dillad.
Diolch i’r holl rieni a alwodd i mewn yn y dosbarthiadau yn ystod nosweithiau rhieni pan fu cyfle i gael sgwrs am gynnydd y disgyblion ac edrych ar eu gwaith.
Cafodd disgyblion Blynyddoedd 4 a 5 gyfle i ddysgu am fywyd y gorffennol ym Mhorthdinllaen pan ddaeth Tegid Williams, Cymhorthydd Addysg Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd i sgwrsio am yr ardal nawr a’i gymharu gyda’r gorffennol ymhell yn ôl – Beth yw’r olion a welwn yno? Pa effaith fyddai bod wedi cael Porthladd mawr yno i gario pobl i’r Iwerddon wneud i’r ardal? Dilynodd yr ymweliad gyfle i’r plant dreulio bore yn Mhorthdinllaen yn dysgu mwy am ei gorffennol.
Cafodd y plant hwyl a sbri’n dawnsio’n ystod ein disgo Calan Gaeaf a drefnwyd gan y Gymdeithas Rhieni’n yr ysgol.Roedd y neuadd yn llawn.Diolch i bob un o’r rhieni a staff yr ysgol a weithiodd yn galed i wneud y noson yn un llwyddiannus.
-----------------------------------------------
Cyngerdd Nadolig
Cynhelir ein Cyngerdd Nadolig yn Y Ganolfan Nefyn am 1:30 (y prynhawn)
a 6:00 (yr hwyr) dydd Mawrth Rhagfyr 13eg - cliciwch yma
Cinio Nadolig - Plant sydd yn cymryd bocs bwyd
Bydd cinio Nadolig ar gael i’r plant sydd fel arfer yn dod â bocs bwyd ddydd Mercher, Rhagfyr 14eg 2011 - cliciwch yma
-----------------------------------------------
Plis dewch i gefnogi
Ffair Grefftau yn yr ysgol pnawn Iau Rhagfyr 1af rhwng 5 a 7 o`r gloch.
Paned a mins pei.
Mynediad - £1.50 Plant am ddim
• Stondin Daloni – eitemau amrywiol
• Stondin Gill – bagiau
• Stondin Carol – cacennau cwpan
• Stondin Lowri – eitemau amrywiol
• Stondin Menna – eitemau amrywiol
• Stondin Joy – gemwaith
• Stondin Glesni – eitemau amrywiol
• Stondin Anwen – eitemau amrywiol
• Stondin crefftau disgyblion yr Ysgol
Gofynnwn yn garedig am gyfranidau tuag at y Raffl a`r Tombola
-----------------------------------------------
YSGOL AR GAU
Fe fydd yr ysgol ar gau dydd Mercher, Tachwedd 30ain oherwydd gweithredu diwydiannol gan amryw o undebau llafur. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra bydd hyn yn ei achosi - cliciwch yma
-----------------------------------------------
Ffair Grefftau Nadolig 1/12/11 - cliciwch yma
-----------------------------------------------
Llythyr Diwrnod Plant Mewn Angen - cliciwch yma
-----------------------------------------------
Tynnu Lluniau
Ar fore dydd Mercher, Tachwedd 16ain bydd Ffotograffydd yn dod i’r ysgol i dynnu lluniau’r plant. Os ydych yn dymuno dod â brawd neu chwaer i gael tynnu ei lun, hefyd, mae croeso i chi wneud hynny - cliciwch yma
-----------------------------------------------
Twrnament Rygbi`r Dalgylch i ddisgyblion Blynyddoedd 3 a 4 - Tachwedd 15
Cliciwch yma am lythyr
-----------------------------------------------
Wythnos Prydau Ysgol Cenedlaethol 7fed-11eg Tachwedd, 2011

|
Fel rhan o ddigwyddiadau Prydain gyfan rydym yn cynnal pryd ysgol ar thema ‘Cofio’. Mae Anti Eirian yn y gegin yn paratoi pryd o’r 1940au ar ddydd Gwener, Tachwedd 11eg, 2011 ... mwy |
-----------------------------------------------
PTA
A meeting of the Parents and Teachers` Association will be held at the school on Tuesday November 8th at 6:00pm. All are welcome to attend.
Llythyr Sioe `Rimbojam` i ddisgyblion Blynyddoedd 3 a
4 (dosbarth Miss Thompson) - cliciwch yma
-----------------------------------------------
Llythyr Gwasanaeth Sul y Cofio i ddisgyblion blynyddoedd 3,4 a 5 - cliciwch yma
Llythyr Twrnament Rygbi`r Dalgylch i ddisgyblion Blynyddoedd 5 a 6 - cliciwch yma
-----------------------------------------------
PORTHDINLLAEN
Bydd disgyblion Blynyddoedd 4 a 5 (dosbarth Mrs Evans) yn ymweld â Phorthdinllaen dydd Llun Hydref 31ain fel rhan o`u hastudiaethau Hanes / Daearyddiaeth - cliciwch yma
-----------------------------------------------
DIGWYDDIADAU
Mwy o brif ddigwyddiadau yr hanner tymor nesaf. Bydd manylion pellach i ddilyn am y gwahanol ddigwyddiadau yn nes at yr amser.
31.10.11 – Disgyblion Dosbarth Mrs Evans – Trip i Borthdinllaen
1.11.11 - Disgo Calan Gaeaf yn neuadd yr Ysgol – 5-7 o`r gloch
Tâl mynediad - £1 (talu`n ychwanegol am greision a diod)
8.11.11 – Twrnament Rygbi`r Dalgylch i ddisgyblion Blynyddoedd 5 a 6
8.11.11 – Cyfarfod Gymdeithas Rhieni – 6 o`r gloch yn yr Ysgol
13.11.11 – Gwasanaeth Sul y Cofio’n yr Eglwys – Blwyddyn 3, 4 a 5 - 3 o’r gloch
15.11.11 – Twrnament Rygbi`r Dalgylch i ddisgyblion Blynyddoedd 3 a 4
16.11.11 – Gwynant Parri – tynnu lluniau unigolion a teuluoedd
1.12.11 - Ffair Nadolig yn Y Ganolfan
9.12.11 – Cinio Nadolig yr ysgol
13.12.11 – Cyngerdd Nadolig yn y Ganolfan-prynhawn a gyda’r nos
14.12.11 – Parti Nadolig
15.12.11 – Canu Carolau yn yr Eglwys
17.12.11 – 2.1.12 – Gwyliau’r Nadolig
Profiadau a llwyddiannau Medi 2011
Croeso’n ôl i’r holl ddisgyblion ar ôl gwyliau’r Haf. Mae’r 124 ohonynt yma’n Ysgol Nefyn erbyn hyn – Croeso mawr i 16 o blant bach Meithrin ac 1 disgybl o Ysgol Morfa. Hefyd mae gennym Gymhorthydd newydd o Goleg Meirion Dwyfor yma efo ni bob Dydd Llun a Dydd Mawrth sef Gwern Bowen sy’n gweithio efo Mrs Gwawr Howel ym Mlwyddyn 1 a 2. Croeso i Gwern. Gobeithio y bydd yn hapus yma efo ni.
Diolch yn fawr iawn i holl rieni a theuluoedd plant Ysgol Nefyn am eich amynedd a’ch parodrwydd i newid trefniadau cerdded ac aros ar yr iard oherwydd y gwaith adeiladu. Rydym yn falch o gael cyhoeddi y bydd y cyfan drosodd ymhen mis – gyda lwc!
Mae gennym waith llongyfarch ar ddechrau tymor fel hyn. Enillodd Elin Owen y wobr gyntaf am gynllunio clawr blaen llyfryn tabl amser trafnidiaeth Gwynedd yn ystod y Gaeaf. Derbyniodd wobr o docynau llyfr gwerth £20 iddi ei hun a thocynnau llyfr gwerth £50 i’r ysgol. Bydd y llun yn ymddangos ar glawr y llyfryn a bydd llun Elin ei hunain yn nhu mewn y llyfryn a fydd ar gael i’r cyhoedd. Yn ail dewiswyd 5 o ddisgyblion yr ysgol sef Ela Mererid Williams, Efa Evans, Keirion Rhys Mansel, Cadi Rees Jones a Mia Ramsden.
Derbyniodd y pump ohonynt docynnau llyfr gwerth £10
Yn ystod wythnos Bwyd Prydeinig fe fu pawb yn brysur unwaith eto –
Blynyddoedd Meithrin, Derbyn ac 1 – Dosbarthu gwahanol fwydydd Prydeinig yn y dosbarth. Taith i “Spar” i siecio pa fwyd sy’n fwyd a gynhyrchwyd yng Ngwynedd/ Dosbarthu cynnyrch sydd wedi eu tyfu yng ngerddi’r disgyblion adref.
Blynyddoedd 1 a 2 – Coginio crymbl afalau o ardd Miss Jones a chrymbl mwyar duon a mafon o ardd yr ysgol.
Blynyddoedd 3 a 4 – Casglu riwbob o ardd yr ysgol a choginio pwdin yn y gegin.
Blynyddoedd 4 a 5 – Anti Gill (Swyddfa’r Post) yn trafod gwerthu cynnyrch lleol yn ei siop .
Blwyddyn 6 – Coginio bara cri’n y dosbarth.
Cafodd plant blwyddyn 6 ddiwrnod diddorol a llawn hwyl yn ystod eu ymweliad ag Amgueddfa lechi Llanberis. Maent yn astudio’r chwarelwr fel rhan o’u Cwricwlwm y tymor hwn.
Diolch i’r holl ddisgyblion am wisgo eu dilladau eu hunain a thalu dirwy o £1 (tuag at apêl Eisteddfod yr Urdd y flwyddyn nesaf).Casglodd yr ysgol £100 tuag at yr Urdd.
Ffarwelio
Rydym i gyd yn Ysgol Nefyn yn teimlo’n drist gan fod athrawes Blwyddyn 6 – Mrs Meirwen Williams yn ein gadael ar ddiwedd mis Hydref. Bydd yn cychwyn fel Dirprwy Bennaeth Ysgol Pont y Gof, Botwnnog.
Diolch o galon iti Meirwen am dy waith arbennig fel athrawes tra y buost efo ni’n Ysgol Nefyn am dros wyth mlynedd. Bydd colled mawr i bawb yn yr ysgol ar dy ôl.
-----------------------------------------------
Llythyr Digwyddiadau Tymor yr Hydref 2011 - cliciwch yma
-----------------------------------------------
Llythyr Caniatad 2011 - 2012 - cliciwch yma
-----------------------------------------------
Cytundeb Cartref / Ysgol Gynradd Nefyn
-----------------------------------------------
Llythyr dechrau tymor - cliciwch yma
Dechrau tymor Medi 2011 - cliciwch yma
Disgyblion Blwyddyn Derbyn yn yr Hwylfan
-----------------------------------------------
Trefniadau Dosbarthiadau mis Medi 2011 - cliciwch yma
-----------------------------------------------
Dydd Mawrth Gorffennaf 12fed
Dim ysgol i Blwyddyn Meithrin gan fod disgyblion Blwyddyn Derbyn yn mynd ar eu trip - cliciwch yma
-----------------------------------------------
Newyddion Ysgol Nefyn Mehefin 2011
Mae diwedd y tymor a diwedd y flwyddyn wrth y drws unwaith eto a phawb yn edrych ymlaen am wyliau’r Haf cyn symud i ddosbarth newydd neu i ysgol newydd.
Dyma flas ar ychydig o’r hyn sydd wedi digwydd yn yr ysgol yn ystod y mis a aeth heibio.
Aeth plant Blwyddyn 1 a 2 am drip i’r Sw Fôr gan fwynhau’r diwrnod yn fawr iawn.
Cafodd rhai o ddisgyblion Blynyddoedd 2 a 3, eu rhieni a rhai o’r athrawon dreulio dau ddiwrnod yng Nghaerdydd – Cael aros noson yn y “Future Inn” yn y Bae, siopio a chystadlu yng nghystadleuaeth “Ar Gamera”. Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu ar nos Sadwrn Awst 27 ar S4C.
Cafodd Mrs Gwawr Howel a Mrs Glenys Williams hwyl yn aros yng nghanolfan Rhyd Ddu gyda disgyblion Blwyddyn 4 am un noson-cyfle i ymweld â Llyn y Dywarchen, cerdded i Feddgelert, chwarae gemau tîm a llawer mwy. Ychydig iawn o gwsg gafodd pawb, mae’n rhaid inni gyfaddef!
Roedd disgyblion Blwyddyn 5 wrth eu boddau’n gweithio’n galed yng Ngwersyll Glanllyn am dri diwrnod – cyfleoedd i ganwio, rhwyfo, cyfeiriannu, cymeryd rhan ar gwrs rhaffau, taith ar y llyn, bowlio 10, adeiladu rafft – heb anghofio’r disgo a gwisgo dillad crand! Daeth Miss Gwyneth Evans, Miss Alison Thompson a Miss Bethan Roberts-Jones yn ôl gyda hanesion hwyliog iawn am y gwyliau.
Llongyfarchiadau i’r disgyblion gymerodd ran yng nghyngerdd “Anno’s Africa” yn Nant Gwrtheyrn. Cyflwynwyr y noson oedd Hayley Mills a Russell Jones. Roedd artistiaid enwog yno – Telynores “Hero”, Honeysuckle Weeks (Foyle’s War), Alaw Tecwyn, Elin ac Anna Llannerch, Cowbois Celtiaidd ynghyd ag athrawon Anno’s Africa – Gareth Brown a Billy Schearer (Mae ysgol Nefyn wedi efeillio gyda ysgol yn slwm Nairobi, lle mae elusen “Anno’s Africa” sy’n deillio o Llundain/ Pen Llyn wedi gweithio efo plant amddifad sydd dan anfantais ers pum mlynedd). Cawsom newyddion da gan Mama B pan ddaeth yn ôl atom a datgan ein bod yn gobeithio fod yna gyfle i ddisgyblion Kenya ddod i aros i Nefyn yn ystod y Gwanwyn (2012) ac yna gobeithio y caiff rhai o ddisgyblion ysgol Nefyn ymweld â Nairobi a gweithio’n yr ysgol yno. Rydym yn croesi ein bysedd ac yn wir obeithio y caiff y freuddwyd hon ei gwireddu. Daeth Anti Susie yma i’n helpu’n y gwasanaeth fel arfer.
Bu digon o gyfleoedd i wneud ymarfer corff ar ddiwedd y tymor – rhai o ddisgyblion Blynyddoedd 4, 5 a 6 yn cymeryd rhan yng nghystadleuaeth criced yn erbyn tîmau o Dalgylch Glan y Môr. Dyma’r tro cyntaf inni gymeryd rhan yn y gystaleuaeth hon a chafodd pawb hwyl fawr.
Bob bore Mawrth bydd cyfle i ddisgyblion Blwyddyn 4 chwarae criced yn yr ysgol o dan arweiniad Mr Neil Williams.
Cafodd pawb ym Mlynyddoedd 3, 4, 5 a 6 gymeryd rhan yn ystod diwrnod athletau’r Dalgylch – cyfle i gyd chwarae gyda disgyblion o ysgolion eraill yn yr un tîm a chael dod i adnabod ei gilydd.
Treuliodd plant Blwyddyn 6 ddiwrnod yn gweithio’n galed yn yr awyr agored ym Mhlas Menai a dychwelodd pawb yn ôl i’r ysgol yn hapus dros ben ar ôl cael “diwrnod gwych”.
Llongyfarchiadau i Rebecca a Mathew Blwyddyn 6 am iddynt ennill tystysgrif a medal yr un am eu gwaith da drwy’r flwyddyn tra’n swyddogion Iau Diogelwch y Ffyrdd. Mae’r ddau ddisgybl wedi mwynhau hybu ac annog diogelwch y ffyrdd yn yr ysgol.
Croeso i ddwy o ddisgyblion Coleg Meirion Dwyfor atom ar brofiad gwaith – Non Pritchard a Gwenno Williams. Hefyd mae’n braf gweld hen ddisgyblion ysgol Nefyn eisiau treulio amser yma efo ni unwaith eto. Daeth pedair o ysgol Botwnnog yma’n ôl ar ddiwedd tymor yr Haf – Lowri Jones, Lois Roberts-Jones, Cara Monaghan a Gwenno Rice Roberts.
Bu Owain o ysgol Morfa Nefyn yn ymweld â’r ysgol gan y bydd yn cychwyn efo ni ym mis Medi. Methodd Naomi â dod gan nad oedd yn teimlo’n dda ar y diwrnod ond gobeithiwn ei gweld yn fuan.
Bydd 15 o blant bach Meithrin yn cychwyn yma hefyd a bu cyfle iddynt dreulio bore’n y dosbarth i gael blas ar fod yma.
Diolch i’r rhieni a gerddodd efo ni i Nant Gwrtheyrn i godi arian i ysgol Nefyn. Trefnwyd y daith gan Gymdeithas Rhieni’r ysgol. Maent wedi bod yn hael iawn gyda ni eleni eto – wedi prynu 5 cyfrifiadur a 2 graffwr i’r ysgol.
Rydym yn estyn croeso cynnes i fwy o rieni ymuno â ni ym mis Medi eto.
Dymunai pawb o Staff yr ysgol ddiolch yn fawr iawn i’r holl rieni a ffrindiau sydd wedi ein cefnogi yn Ysgol Nefyn yn ystod y flwyddyn ysgol sydd bron ar ben.
-----------------------------------------------
Hwylfan Caernarfon
Bydd disgyblion Blwyddyn Derbyn yn ymweld â Hwylfan Caernarfon 12/07/11 - cliciwch yma
-----------------------------------------------
Plas Menai
Bydd disgyblion Blwyddyn 6 yn ymweld â Phlas Menai dydd Gwener Gorffennaf 8fed 2011 - cliciwch yma
-----------------------------------------------
Nosweithiau Rhieni
Bydd nosweithiau rhieni yn cael eu cynnal yn ystod dyddiau 11eg - 14eg o Orffennaf, wythnos olaf y tymor - cliciwch yma
Trip i'r Sw
Bydd disgyblion Blynyddoedd 1 a 2 yn ymweld â Sw Môr Môn dydd Gwener Gorffennaf 1af 2011 - cliciwch yma
-----------------------------------------------
Taith Gerdded Noddedig
Ar ran y Gymdeithas Rhieni ac Athrawon bwriadwn drefnu taith gerdded noddedig ar gyfer rhieni ar nos Iau Gorffennaf 7fed 2011 - cliciwch yma
-----------------------------------------------
Gweithredu Diwydiannol
Ar ddydd Iau Mehefin 30ain 2011 bydd Undeb Cenedlaethol yr Athrawon (NUT) a Chymdeithas Athrawon a Darlithwyr (ATL) yn gweithredu`n ddiwydiannol ar lefel genedlaethol. Tra bod ymdrech yn cael ei gwneud i gynnal gwasanaethau allweddol ar gyfer plant a phobl ifanc, golyga`r gweithredu diwydiannol na fyddwn yn agored i ddisgyblion yn ôl yr arfer ar y diwrnod hwn.
DYDD IAU NESAF(30:06:11) DIM YSGOL I`R DISGYBLION
Bydd y Pennaeth a`r Cymorthyddion yn bresennol yn yr ysgol gan nad ydynt yn aelodau o ATL,NUT,UCU a PCS. - cliciwch yma
-----------------------------------------------
Cynhelir pnawn o fabolgampau ar gae`r ysgol ar ddydd Llun Gorffennaf 4ydd gan ddechrau am 1 o`r gloch - cliciwch yma
Blwyddyn 3 a 4 - Llythyr Twrnament Athletau Dydd Llun Mehefin 27ain 2011
- cliciwch yma
Blwyddyn 5 a 6 - Llythyr Twrnament Athletau dydd Llun Mehefin 20fed 2011
- cliciwch yma
Newyddion o Ysgol Nefyn – Mai 2011
Bu llawer o brysurdeb yn Ysgol Nefyn unwaith eto. Bydd disgyblion Blwyddyn 6 yn cael eu hyfforddi i farchogaeth beic yn gywir a gofalus, unwaith yr wythnos. Y tymor hwn daw dau o aelodau “Diogelwch y Ffyrdd i’r ysgol i’w hyfforddi. Gobeithiwn y bydd pawb wedi gweithio’n ddigon da i dderbyn tystysgrif ar ddiwedd yr hyfforddiant.
Bu treulio tri diwrnod yng Ngwersyll yr Urdd Caerdydd yn gyfle gwych i blant Blwyddyn 6 wneud ffrindiau gyda disgyblion Ysgol Pentrefuchaf ac Ysgol Sarn Bach. Cychwynodd 13 o blant Ysgol Nefyn, 17 o blant ysgol Pentrefuchaf a 4 o blant ysgol Sarn Bach am 7:00 o’r gloch ar fore Dydd Llun 23 o Fai. Cawsom brofiadau gwerth eu cael – Ymweld ag Amgueddfa Sain Ffagan a dysgu llawer am y gorffennol, nofio mewn pwll nofio anferthol, cymeryd rhan mewn trafodaethau a mynegi barn, pleidleisio a sgwrsio gyda’r Arglwydd Dafydd Ellis Thomas yn y Senedd/ Cynulliad, teithio o amgylch Stadiwm y Mileniwm a dysgu am y stadiwm, mynd mewn cwch o amgylch y bae, gweld ffilm 3D yn y sinema “Pirates of the Caribbean”, a treulio bore’n Techniquest yn arbrofi, cymeryd rhan mewn gweithdy Gwyddoniaeth ac ymchwilio. Roedd pawb yn credu fod y tri diwrnod wedi bod yn ddiwrnodau rhagorol – cyfleoedd arbennig i ddysgu a chymysgu â’n gilydd.
Mae disgyblion Blwyddyn 5 wedi bod yn cyd-drafod beth fyddai’r enwau gorau i alw ystafelloedd y Ganolfan newydd. Wedi llawer o drafodaeth penderfynwyd ar yr enwau -ystafell gyfarfod yr Eifl,ystafell gyfarfod Gwylwyr a Neuadd Porth Madryn. Bydd yr enwau hyn yn cael eu gosod ar waliau’r ystafelloedd. Hefyd bydd logo’r Ganolfan a luniwyd gan ddisgyblion Ysgol Nefyn yn cael ei osod y tu allan i’r Ganolfan yn y dyfodol agos.
‘Roedd yn ddiwrnod llwyddiannus pan aeth Blwyddyn 6 i Barc Padarn i wneud gwaith cyfeiriannu fel rhan o’r wyl gyfeiriannu yno.
Daeth cwmni Boomerang i Ysgol Nefyn i ffilmio rhai o ddisgyblion Blynyddoedd 2 a 3 ar gyfer “Ar Gamera”. Roedd pawb wedi gwirioni’n lan pan dderbyniom yr alwad ffôn yn dilyn hyn yn gofyn inni fynd i lawr i Gaerdydd dechrau Mehefin i gymeryd rhan mewn mwy o ffilmio yn y stiwdio yno. Bydd cyfle i rieni a staff yr ysgol dreulio noson yn y brifddinas, gwneud ychydig o siopa, yn ogystal â chael cyfle i fod ar y sgrîn fawr.
Diolch i Anti Joy Brown am ofyn i ddisgyblion Blwyddyn 5 ailgylchu hen bapur a llunio papur lliwgar ar gyfer y cyngerdd arbennig ar Ddydd Sul 5ed o Fehefin – Gellir plannu’r papur yn y ddaear gan fod hadau `glas y gors`- forget me not wedi eu lledaenu drostynt. Yna bydd y blodau’n tyfu’n y gerddi i’n atgoffa o Anno,elusen Anno’s Africa ac hefyd o blant bach amddifad sydd o dan anfantais yn slwm Nairobi. Diolch arbennig i Mrs Lowri Roberts am weithio’n galed gyda’r disgyblion. Diolch i Gareth Brown am ddod i chwarae gitâr ac ymarfer ar gyfer canu’r gân “Lean on me” ar gyfer y cyngerdd. Bydd y disgyblion yn canu 3 cân a bu Gwyneth Evans, Sian Evans a Meirwen Williams yn brysur yn eu hyfforddi.
Mae plant Blwyddyn 5 yn edrych ymlaen i gael treulio 3 diwrnod yng Ngwersyll yr Urdd Glanllyn a phlant Blwyddyn 4 am gael treulio 2 ddiwrnod yng Nghanolfan Rhyd Ddu. Diolch o galon i griw’r Bingo unwaith eto am gyfrannu tuag at ein ‘tripiau’. (Erbyn hyn rydym wedi derbyn £1001 ers mis Medi 2010).
Bu plant Blwyddyn 3 a 4 yng Nghoedwig Boduan i ddysgu mwy am flodau gwyllt a choed gyda Anna o ‘Goed Cymru’. Cawsant hwyl yn dilyn llwybr trwy’r goedwig ac ateb cwestiynau am natur ar gardiau yn hongian o’r brigau.Buont yn ceisio adnabod y blodau a choed yn y goedwig trwy ddefnyddio siart a gwrando ar gyngor gan Anna.Mae’r plant a’r staff yn dymuno diolch i Anna a Chyfeillion y Goedwig am eu hamser a’u cyfellgarwch yn ystod eu hymweliad.
Mae’r traeth yn lân unwaith eto wedi i ddosbarth 1 a 2 dreulio’r bore yno’n casglu sbwriel -ymgyrch “Cadw Cymru’n Daclus”. Mae glanhau’r traeth yn bwysig iawn inni’n Ysgol Nefyn gan ein bod wedi mabwysiadu’r traeth ac mae’n ddyletswydd arnom i edrych ar ei ôl.
 |
Ymweliad i Gaerdydd - Mai 24, 2011
Plant Ysgol Pentreuchaf, Nefyn a Sarn Bach yn cyfarfod yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas yn y Senedd bore ma.
Swyddogion y Cynulliad wedi "dotio" ar ymateb ac ymddygiad ein disgyblion. Da iawn chi blantos!
|
 |
Hwre o Stadiwm y Mileniwm! |
-----------------------------------------------
Llythyr Nyrs Ysgol a newid Trefniadau HMS - cliciwch yma
Llythyr Treialu System Anfon Negeseuon Testun i Rieni - cliciwch yma
Gwyliau Hanner Tymor / HMS i`r athrawon - cliciwch yma
Blynyddoedd 3 a 4 yn ymweld â Hen Eglwys Boduan - cliciwch yma am y llythyr
Cwrs Blwyddyn 5 yng Ngwersyll yr Urdd, Glanllyn, 15fed – 17eg Mehefin 2011
- cliciwch yma
Cwrs Blwyddyn 4 yn Rhyd Ddu, 13eg – 14eg o Fehefin 2011 - cliciwch yma
Llythyr Gwyl Gyfeiriannu i ddisgyblion B6 - cliciwch yma
Bydd pris cinio ysgol yn codi o ddydd Mawrth Mai 3ydd 2011 i £1.90 y plentyn.
£1.90 - 1 diwrnod
£3.80 - 2 ddiwrnod
£5.70 - 3 diwrnod
£7.60 - 4 diwrnod
£9.50 - 5 diwrnod
Cliciwch yma am lythyr
-----------------------------------------------
Llythyr Gwersi Nofio Blwyddyn Derbyn - cliciwch yma
Newyddion Mawrth
Diolch i rieni plant Ysgol Nefyn a ymunodd efo ni yn ein gwasanaeth yn yr Eglwys ar Fawrth y Cyntaf yn ogystal ag yn Eisteddfod yr Urdd ym Mhwllheli. Fe weithiodd y plant yn galed iawn ond ni lwyddom i gyrraedd Eisteddfod Bangor y tro hwn. Bu’r Gymdeithas Rieni’n brysur fel arfer a derbyniom arian ganddynt i brynu 4 cyfrifiadur. Bydd y plant yn sicr o elwa o hyn yn eu gwersi. Diolch yn fawr iawn iddynt am eu gwaith caled. Mae croeso cynnes i fwy o rieni ddod yn aelodau gan ein bod yn sicr angen mwy o gefnogaeth os yn bosibl. Bu Paula, Swyddog Diogelwch y Ffyrdd yn sgwrsio gyda’r Swyddogion Sef Rebecca a Mathew am eu gwaith fel arweinwyr.
Roedd yr holl ddisgyblion ym Mlynyddoedd 3, 4, 5 a 6 yn edrych ymlaen yn fawr am gystadleuaeth hoci a chystadleuaeth rygbi’r dalgylch. Gan fod y timau’n cael eu cymysgu fel arfer roedd yn gyfle gwych i wneud ffrindiau gyda disgyblion ysgolion eraill, yn ogystal â chael digon o hwyl a sbri!!
Llongyfarchiadau mawr i’r disgblion a lwyddodd yn adran celf a chrefft yr Urdd. Llongyfarchiadau i’r canlynol yng nghystadleuaeth ffotograffiaeth –
Cylch Llyn
• 1af Bethany Westley – Cyfers o luniau
• 1af Bethany Westley – Un print lliw
• 2il Erin Ll Jones – Cyfres o luniau
• 3ydd Mai Owen – Cyfres o luniau
Rhanbarth Eryri
• 1af Mai Owen – Cyfres
• 2il Bethany Westley – Cyfres
• 2il Erin Ll Jones – Cyfres
Mae gwaith llongyfarch disgyblion Blwyddyn 4 a 5 hefyd – Llongyrafchiadau i Elin a Cian Rhys am ennill y gystadleuaeth creu poster gan “Pen Llyn a’r Sarnau”. Mae eu posteri yn cael eu hargraffu yn fuan. Mae rhai o waith ddisgyblion eraill wedi cael ei ddewis i greu sticeri.
Teithiodd y plant Blynyddoedd 5 a 6 i’r Sioe Wyddoniaeth yn Ysgol Botwnnog ac i’r Sioe Natur. Roedd cyfle i gymeryd rhan mewn arbrofion.
Casglwyd £187.85 ar ddiwrnod “Comic Relief” yn yr ysgol. Gwisgodd pawb wisg nos a rhai’n gwisgo trwyn coch gan dalu dirwy o £1 ur un. Bu disgyblion Blynyddoedd 5 a 6 yn brysur gyda’u rhieni’n coginio cacennau blasus i’w gwerthu i holl ddisgyblion yr ysgol yn ystod y dydd.
Roedd diwrnod “Coleg y Bala’n” wych fel arfer. Cafodd plant blynyddoedd 3, 4 a 5 ailfyw’r wythnos – digon o actio a chymeryd rhan allan yn yr awyr iach – (Marchogaeth i Jeriwsalem, Gardd Gethsemane a Golgotha) yn ogystal ag i mewn (yn yr Oruwchystafell. Plas yr Archoffeiriad a’r Praetoriwm) Diolch o galon i Anti Nia a’i ffrindiau am wneud y diwrnod yn un mor amrywiol a diddorol.
Ar Fawrth y 3ydd dathlom Ddiwrnod y Llyfrau yn Ysgol Nefyn. Daeth llawer o’r plant i’r ysgol wedi gwisgo fel cymeriad o lyfr. Cafodd Callum, Harri, Gethin, Berian, Nel, Elin ac Erin eu llun yn y papur newydd.
Teithiodd rhai o ddisgyblion Blwyddyn 5 a 6 Ysgol Nefyn i Gaerdydd gyda disgyblion Blwyddyn 7 Ysgol Botwnnog. Roedd cyfle i rai o’r rhieni ymuno ar y daith. Mae’n amlwg oddi wrth yr holl drafodaethau fod pawb wedi mwynhau ei hunain yn fawr iawn – diwrnod da iawn, er nad oedd y sgôr mor da!! Diolch i Mr Geraint Hughes, Dirprwy Bennaeth yr ysgol am yr holl waith paratoi ac am roi’r cyfle i blant Nefyn ymuno â’r Ysgol Uwchradd yn ystod y dydd.
Cawsom arian gan griw’r gegin yn dilyn y “Bingo” bob nos Lun yn yr ysgol. Bydd yn werthfawr iawn inni fel arfer. Casglwyd £577 ers mis Medi 2010. Diolch o galon.
Mae Ysgol Nefyn wedi gefeillio gyda ysgol yn Kiberia, Slum yn Affrica. Bydd cyngerdd yn cael ei gynnal yn Nant Gwrtheyrn ar y 5ed o Fehefin i gasglu arian a bydd disgyblion Ysgol Nefyn yn cymeryd rhan. Gobeithiwn weld Hailey Mills (“Snape”) Alaw Tecwyn, Christina (Pletyn o Kiberia) yno hefyd. Rydym yn barod wedi casglu digon o arian i brynu gwisgoedd ysgol i bedwar o blant yr ysgol yno.
Ar Fawrth 4ydd, Dydd Gwener aeth plant Blwyddyn 3 a 4 i’r neuadd i ganu cân ‘Masnach Deg’ i weddill yr ysgol. Bu’r plant yn brysur yn gwneud gwaith am fananas Masnach Deg. Helpodd Jac, Joanna a Keirion Blwyddyn 4 i wneud myffins bananas gyda chymorth Anti Carys. Roedd y myffins yn flasus iawn, yn enwedig y siocled gyda’r ffa cocoa o Ghana. Ysgrifennodd y disgyblion weddi ar gyfer pobl Japan sydd wedi dioddef ers y daeargryn.
Hefyn buont yn teithio o gwmpas Nefyn yn chwilio am lefydd ag enawu strydoedd a thai gyda chysylltiad crefyddol er mwyn dathlu mis Addysg Grefyddol.
Daeth dau aelod o dîm Gwasanaeth Cyfiawndu Ieienctid Gwynedd a Môn at ddisgyblion Blynyddoedd 5 a 6 i sôn am beryglon ymddygiad gwrthgymdeithasol. Roedd cyfleoedd i’r disgyblion fynegi eu barn, cymeryd rhan mewn cwis yn ogystal â gweithio yn y dosbarth yn dilyn gwaith y bore. Anfonodd y plant fwy o gwestiynnau i ffwrdd i’r gwasanaeth – Cwestiynnau wedi i’r disgyblion feddwl amdanynt eu hunain.
Mae 6 o rieni’r plant meithrin yn derbyn hyfforddiant parodwydd ysgol sy’n gwrs 4 wythnos. Mae’r cwrs yn cael ei gynnal yn yr ysgol ar fore Iau o 9 -11. Hyfforddi y rhieni gan Judith Owen a Karen Pritchard. Mae’r cwrs yn rhan o ymchwil y Blynyddoedd Rhyfeddol yn Mhrifysgol Bangor.
------------------------------------------------
Llythyr Twrnament Rygbi a Hoci`r Dalgylch i ddisgyblion B5 a B6 - cliciwch yma
Llythyr Sioe Wyddoniaeth i ddisgyblion B5 a B6 - cliciwch yma
Llythyr Diwrnod Trwynau Coch - cliciwch yma
Llythyr Ymweliad â Choleg Bala - cliciwch yma
Llythyr Twrnament Rygbi a Hoci`r Dalgylch i ddisgyblion B3 a B4 - cliciwch yma
Llythyr Gwyliau Ysgol - cliciwch yma
Llythyr Sioe Wyddoniaeth - disygblion Blwyddyn 6 - cliciwch yma
Newyddion Dechrau`r Flwyddyn
Diolch i`r rhieni sy`n dal i fynychu`r dosbarthiadau `Cynllun Teulu`i wiethio gyda`r disgyblion ar foreau dydd Llun.
Bu aelodau o gwmni `Powerwise` yn trafod diogelwch trydan gyda`r disgyblion ymhob dosbarth, mae pawb yn teimlo`n hapusach ynghylch beth sy`n beryglus inni nawr.
Aeth disgyblion Blynyddoedd Derbyn, 1 a 2 i Ysgol Glan y Môr i Sioe Carys Ofalus, i ddysgu sut i groesi`r ffordd yn ddiogel,cafwyd cyfle i ganu a chael hwyl a sbri yn ystod y sioe.
Daeth Anti Nia atom i gynnal gwasanaeth yn yr ysgol. Cymerodd y disgyblion ran yng ngwasanaeth Dydd Gwyl Ddewi yn yr Eglwys ar Fawrth y Cyntaf.
Bu ymweliad gan Angharad o fudiad yr Urdd yn hybu`r cylchgarwn `Cip` i ddisgyblion Blynyddoedd 3 a 4. Eglurodd Angharad beth yw`r broses i gael y cylchgrawn at ei gilydd yn fisol.
Roedd disgyblion Blynyddoedd 5 a 6 wedi mwynhau Sioe `Hei Hogiau Bach` yn fawr iawn, mae`r hogiau`n fwy awyddus i ddarllen nawr ar ôl cael cyfle i fod yn rhan o`r perfformiad.
Derbyniom £250 o rodd gan Mr Knowles a`r Criw Chwist sydd yn cyfarfod yn yr ysgol bob nos Fawrth. Rydym yn gwerthfawrogi y rhoddion ariannol hael ganddynt ac hefyd y Criw y Bingo sydd yn cyfarfod bob nos Lun.
------------------------------------
Llythyr Dydd Gwyl Dewi a Diwrnod y Llyfr - cliciwch yma
CYMDEITHAS RHIENI AC ATHRAWON YSGOL NEFYN - cliciwch yma
Cliciwch yma i gael golwg ar yr Archif Newyddion 2008
Cliciwch yma i gael golwg ar yr Archif Newyddion 2009
Cliciwch yma i gael golwg ar yr Archif Newyddion 2010
Ewch draw i dudalen y Dosbarth i weld beth sy'n digwydd - cliciwch yma
|
Gwyliau Hanner Tymor 2012
Dydd Gwener Chwefror 10fed – Ysgol yn cau am y gwyliau
Dydd Llun Chwefror 20fed – Ysgol yn ail agor
Dyddiadur Digwyddiadau 2012 - cliciwch yma
|
|