Logo Ysgol Nefyn
Ysgol Gynradd Nefyn
Ysgol Werdd
Mae’r ysgol newydd ennill y wobr efydd am ysgol sydd yn hybu ffordd wyrdd o fyw ymysg y disgyblion.

Diolch i Mr Dewi Wyn Jones o Gyngor Gwynedd a Mr Elfed Gruffydd am ein cynorthwyo gyda’r gwaith.

YsgolMewn ysgol werdd mae digwyddiadau fel:

  • Defnyddio dwy ochr o’r ddalen bapur pan yn llungopio, argraffu dogfennau sgwennu llythyrau.
  • Cynnal arolwg o’r gwastraff a gynhyrchir yn yr ysgol ac yr hyn sy’n digwydd iddo e.e. tirlenwi, ailgylchu
  • Gwneud defnydd o finiau pwrpasol ar gyfer casglu papur ar gyfer ei ailgylchu.
  • Annog y disgyblion a’r staff i ddiffodd y golau cyn gadael yr ystafell am gyfnod o amser ayyb.
    Y wobr arian yw’r nôd eleni!

Rydym bellach wedi ennill y Wobr Aur yng nghynllun Ysgol Werdd Ysgolion Gwynedd.
Erbyn hyn rydym yn parhau i gadw safonau ein cynlluniau ysgol ac wedi cyflwyno`r plant i waith Mansach Deg ac Entrepreneuriaeth fel ychwanegiadau.
Yn Haf 2008 llwyddwyd hefyd i gyrraedd safon Y Faner Werdd yng nghynllun
Eco-sgolion. Arddangosir y faner anferth hon yn neuadd yr ysgol.
Enillodd disgyblion Ysgol Nefyn yr ail wobr yng nghystadleuaeth `Cadw Cymru`n Daclus`. Ni oedd yr unig ysgol gynradd i gyrraedd y rownd derfynol.

Unrhyw syniadau? Cliciwch yma

 

   
 
Ysgol Gynradd Nefyn, Nefyn, Pwllheli, Gwynedd LL53 6EA

Dylyniwyd gan Delwedd

Plant Y Gymuned Ysgol Rhieni Argraffu E-bostiwch Ni Marciwch Ni Sôn wrth ffrind