|

Latest Photos from the Album
Click here to see the Album
INVITATION
A presentation on `Our Language Charter and the Benefit of Bilingual Education for our Children` - click here
-----------------------------------------------
YEAR 6 NEWSLETTER
Year 6 Newsletter - Whitsun 2013 - click here
-----------------------------------------------
Second Hand Shop
The Parents and Teachers` Association intend to open a second hand shop in the school - click here
-----------------------------------------------
Athletics Tournament
Athletics Tournament for Year 5 and 6 - click here
-----------------------------------------------
Bardsey Island
A visit to Bardsey Island for Year 6 - click here
Athletics Tournament
Year 3 and Year 4 pupils will take part in the Athletics Tournament at Dwyfor Leisure Centre on Tuesday June 4th 2013 - click here
-----------------------------------------------
Change to Rhyd Ddu Arrangements
Time we arrive back at school has changed - click here
-----------------------------------------------
Swimming Gala

Llongyfarchiadau i ddisgyblion Blynyddoedd 4,5 a 6 a gymerodd ran yng Ngala Nofio Ysgolion Cynradd Dwyfor yng Nghanolfan Hamdden Dwyfor yn ystod mis Ebrill 2013.
(Welsh only at this time)
-----------------------------------------------
`Rala Rwdins`Show
The pupils of Reception,Years 1 and 2 will attend `Rala Rwdins`show at Neuadd Dwyfor on Monday afternoon, May 13th 2013 - click here
-----------------------------------------------
Orienteering
Orienteering Activities at Glynllifon for Year 6 pupils - click here
-----------------------------------------------
YEAR 6 NEWSLETTERS
Year 6 Newsletter - Easter 2013 - click here
Year 6 Newsletter - February 2013 - click here
Year 6 Newsletter - Christmas 2012 - click here
Year 6 Newsletter - October 2012 -click here
Newyddion Ebrill 2013 (Welsh only at this time)
‘Rydym yn falch fod Chloe o Ysgol Glan y Môr wedi mwynhau ei chyfnod efo ni’n Ysgol Nefyn. ‘Roedd y plant wrth eu bodd yn ei chwmni hithau hefyd.
Diolch i ddisgyblion Blwyddyn 5 am weithio’n galed i ddysgu eu gwaith ar gyfer cystadleuaeth Cwis Llyfrau.Yn anffodus ni fuom yn llwyddiannus y tro hwn ond cawsom lawer o hwyl yn actio ac yn dysgu a thrafod y ddau lyfr. Llongyfarchiadau mawr i Ysgol Edern am ddod yn fuddugol yn y gystadleuaeth.
Cafodd Joanna a Droy fore diddorol yn ymweld ag Ysgol Glan y Môr. Mae’r ddau’n edrych ymlaen am fis Medi ‘nawr.
Llongyfarchiadau mawr i ddisgyblion yr ysgol am ddod yn ail yng Ngala Nofio Dwyfor (ysgolion gyda dros 80 o ddisgyblion). Llongyfarchiadau i Cenin am ddod yn gyntaf am nofio broga (Blwyddyn 6) i Lea am ddod yn 3ydd am nofio broga (Blwyddyn 5) ac i Alaw am ddod yn 3ydd am nofio Broga (Blwyddyn 6).
Llongyfarchiadau i dîm Ras gyfnewid Blwyddyn 5 am ennill yr ail wobr yn y Gala Nofio.
Cafwyd noson yn llawn hwyl pan gawsom noson Bingo yn yr ysgol. Diolch yn fawr i Gymdeithas Rhieni am drefnu’r noson a diolch i bawb ddaeth i’n cefnogi. Gwnaed elw o £200 a bydd yr arian yn cael ei wario ar y disgyblion.
Fel arfer ‘rydym wedi cael gwasanaethau crefyddol addysgiadol a llawn hwyl. Daeth Tracey a’i ffrindiau i gyflwyno gwasanaeth ac i baratoi’r disgyblion ar gyfer y Clwb Crefyddol ar ôl ysgol ar Ddydd Gwener (rhwng 4:30 a 5:30 o’r gloch). Bydd yn cael ei gynnal yn wythnosol ac nid oes unrhyw dâl i’w dalu. Mae croeso i unrhyw un o ddisgyblion yr ysgol i fynd i’r clwb.
Mae Anti Barbara wedi bod yn brysur efo ni unwaith eto – yn cynnal gwersi Saesneg ac hefyd yn cynnal gwasanaethau Crefyddol.Dyma’r ail dro iddi hi a’i ffrindiau ddod atom i gyflwyno gwasanaeth ar “Agor y Llyfr”. Mae’r plant i gyd yn gwirioni gyda’r cymeriadau bach sy’n dod yma am dro i gymeryd rhan yn y gwasanaeth hefyd.
Yn anffodus’roedd yn rhaid i Anti Lis ohirio’r daith o amgylch Nefyn gyda disgyblion Blwyddyn 5 oherwydd cyfarfod brys yn Swyddfa’r Heddlu. Aethom o gwmpas Nefyn ein hunain i chwilio am arwyddion fod pobl Nefyn angen gwneud mwy i edrych ar ôl yr amgylchedd. Bydd Anti Lis yn ymuno efo ni’r wythnos nesaf gobeithio. ‘Rydym wedi llunio tri deg o gwestiynau i Anti Lis yn barod (am ei gwaith) ac fe fyddwn yn eu gadael yn Swyddfa’r Heddlu yn Nefyn.
Mae plant Blynyddoedd 5 a 6 yn cael hwyl mewn gwersi chwaraeon o dan arweiniad disgyblion Coleg Meirion Dwyfor ar b'nawn Dydd Gwener. Bydd cyfleoedd i chwarae pêl droed, rygbi a hoci.
Mae’r clwb I-pads bellach wedi cychwyn ar b’nawn Mawrth i ddisgyblion Blwyddyn 5 a Blwyddyn 6 o dan arweiniad Mr Dylan Roberts (athro Blwyddyn 6). Ma’r plant wedi bod yn defnyddio gwahanol app’s i ddatblygu sgiliau Technoleg Gwybodaeth. Mae croeso i unrhyw un o Flynyddoedd 5 a 6 yn Ysgol Nefyn i ymuno bob nos Fawrth.
Hoffai Mrs Howel ddiolch o galon i Mrs Victoria Pristley am gludo’r iglw ENFAWR i gystadleuaeth Celf a Chrefft y Cylch a’r Sir- Eisteddfod yr Urdd eleni. Achubodd y dydd ar fyr rybudd!! Os y byddwch yn teithio i Sir Benfro i’r Eisteddfod, cofiwch alw yn y babell Gelf a Chrefft i’w weld.
Hefyd hoffai Mrs Howel ddiolch i Gwyndaf am ei gymorth eto eleni efo timau pêl droed yr Urdd. Cafwyd cystadleuthau agos iawn ym Mhorthmadog.
Piti i Mr Jones yr Hendre gael clywed tactics tîm Nefyn. Bu hyn yn ddigon i’r Hendre fynd ymlaen i’r rownd nesaf!!
Diolch yn fawr i Anti Ella am yr holl waith mae wedi ei gyflawni gyda’r disgyblion ar gyfer cystadleuaeth Gwaith Llaw Sioe Nefyn. Pob lwc i chi i gyd eleni. Diolch i Anti Ella am weithio efo ni’n yr ysgol o leiaf dwy waith yr wythnos.
Mae disgyblion y gwahanol ddosbarthiadau yn dal i ennill bagiau am gyflawni pum ymweliad â llyfrgell Nefyn a darllen pum llyfr. ‘Rydym yn lwcus iawn o gael llyfrgell mor agos i’r ysgol.
Erbyn hyn mae Sian Scott o Edern wedi ymuno efo ni (Cynllun Cam wrth Gam). Bydd yn gweithio yn Adran y Babanod ac mae’r plant wrth eu boddau yn ei chwmni.
-----------------------------------------------
NEWS (Welsh only at this time)
Rydym yn falch dros ben fod yr iglw a greodd disgyblion yr ysgol yng nghystadleuaeth Adran Celf yr Urdd wedi dod yn fuddugol yn yr Adrannau Cylch a Rhanbarth a’I fod erbyn hyn wedi ei anfon ymlaen i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mhenfro i gael ei feirniadu.
Bu Rebecca Louise Jones Parry gyda ni fel Myfyrwraig yn Ysgol Nefyn. Roeddem yn falch iawn o’I gweld yn gweithio efo ni unwaith eto.
Plant bach lliwgar iawn oedd yma ar Ddiwrnod y Llyfr. Ymdrechodd dros gant o’r disgyblion i wisgo i fyny fel cymeriadau o’u hoff lyfrau. Mi fyddai wedi bod yn rhy anodd I ddewis enillwyr yn y gystadleuaeth gan fod pawb yn haeddu gwobr am eu hymdrechion caled. Diolch I’r holl rieni a fu’n helpu I ddewis dilladau mor ddeniadol.
Diolch yn fawr I Anti Nia a Gwyn Rhydderch am ein cymeryd am y diwrnod yng Ngholeg Y Bala. Roedd yn wych cael ail fyw Wythnos y Pasg-cael teithio I Jerwsalem, mynd I dy Mair a Martha, cael bwyta swper y Pasg yn yr Oruwchystafell, cael mynd at y Groes a chymeryd rhan mewn helfa drysor ac yna diweddu’r dydd yn gwylio ffilm am Yr Wythnos Fawr. Byddwn yn edrych ymlaen i fynd i Goleg Y Bala bob blwyddyn ac yn dysgu llawer yn ystod y diwrnod hwnnw.
Cafodd y plant hwyl yn cymeryd rhan yng nghystadleuaeth Dyfalu-cystadleuaeth y Pasg. Llongyfarchiadau I Nia Roberts a oedd yn Fyfyrwraig gyda ni am ddyfalu faint o wyau oedd yn y botel ac I Catrin Fon am ddyfalu beth oedd enw’r gwningen fach. Yr enw cywir oedd Eira.
Bu plant Blynyddoedd 3, 4, 5 a 6 yn cymdeithasu gyda disgyblion eraill y Dalgylch, bod yn rhan o dimau o ddisgyblion gwahanol ysgolion yn ystod dau ddiwrnod pan fuon nhw’n chwarae rygbi a hoci ym Modegroes.
Pob hwyl i chwech o ddisgyblion Blwyddyn 5 sydd wedi bod yn brysur yn darllen ac astudio cynnwys dau lyfr ar gyfer cystadleuaeth llyfrau Cymraeg. Diolch I chi blant am roi dau ddiwrnod o’ch gwyliau i ddod i’r ysgol i baratoi ar gyfer y rownd gyntaf sy’n cymeryd lle yn syth ar ol gwyliau’r Pasg.
Roedd Ysgol Nefyn yn un o un ar hugain o ysgolion sydd wedi cael gwahoddiad i gymeryd rhan yn Sialens i Ddarllen-Darllen i ennill gan Wasanath Llyfrgell Gwynedd.Roedd yr her ddarllen yn cychwyn yn ystod Tymor yr Hydref hyd at y Pasg. Y gamp oedd mynd i’r llyfrgell pum gwaith a chasglu pump stamp am ddarllen pum llyfr.Y wobr oedd bag yn llawn o nwyddau difyr.Mae’r her yn cefnogi ac yn annog plant i ddarllen a hybu sgiliau llythrennedd.Disgyblion Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 Ysgol Nefyn oedd y rhai cyntaf I gwblhau y sialens ddarllen yn Llyfrgell Nefyn ac roedd pob un yn hapus iawn gyda’u gwobr.
Cofiwch am Noson Bingo Ysgol Nefyn. Mae croeso I unrhyw un ddod atom yn yr ysgol am saith o’r gloch ar Nos Wener Ebrill 19eg.Mae’r noson wedi ei threfnu gan Gymdeithas Rhieni Ysgol Nefyn.
Bingo
Bingo Evening in the school hall on Friday April 19th at 7 o`clock - click here
-----------------------------------------------
Dwyfor Swimming Gala - click here
-----------------------------------------------
Year 5 Course at the Urdd Camp, Glanllyn - click here
Swimming Lessons
For pupils of the Reception Year - click here
-----------------------------------------------
Rugby and Hockey Tournament
For the pupils of Years 3 and 4 - click here
-----------------------------------------------
Rugby and Hockey Tournament
For the pupils of Years 5 and 6 - click here
February News - translation coming soon
Erbyn hyn mae cyfnod Ymarfer Dysgu Nia a Iolo yn dod i ben. Bydd chwith gan holl staff a disgyblion Ysgol Nefyn ar eu holau. Diolch i’r ddau ohonynt am “ffitio” i mewn mor dda efo ni’n Ysgol Nefyn. Pob lwc i’r ddau pan fyddan nhw’n chwilio am swyddi dysgu ar gyfer mis Medi nesaf.
Cawsom ddiwrnod da iawn o dan arweiniad P.C John pan fu plant Blynyddoedd 1 a 2 yn trafod pobl sy’n ei helpu a phlant Blynyddoedd 3 a 4 yn dysgu am ddiogelwch wrth ddefnyddio’r wê. ‘Roedd disgyblion Blwyddyn 6 yn dysgu beth yw “Ymddygiad Gwrthgymdeithasol”.
Diolch yn fawr iawn i Aled Williams ac Arwyn Williams am gyflwyno cwrs beicio i ddisgyblion Blwyddyn 6. Erbyn hyn mae’r hyfforddiant wedi dod i ben.Mae pawb yn teimlo’n fwy hyderus pan yn teithio ar eu beiciau.
Bu pawb yn brysur yn cymeryd rhan yng nghyngerdd Gwyl Dewi’r ysgol. ‘Roedd yn braf cael ymweld â Phlas Hafan a Phlas Madryn i ganu ac i adrodd - i gyflwyno rhai o’r eitemau iddynt hwythau.
Bydd plant Blwyddyn 6 yn treulio tri diwrnod yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf. Cafodd y disgyblion dreulio hanner diwrnod gwych yn cynllunio’r ymweliad yn Ysgol Pentrefuchaf. Roedd yn fore prysur gyda disgyblion Ysgol Sarn Bach, Ysgol Nefyn ac Ysgol Pentrefuchaf yn trefnu bwsus i’w cludo i Gaerdydd ac yn penderfynu pa weithgareddau ac ymweliadau ‘roedd pawb yn dymuno cymeryd rhan ynddynt ar ôl cyrraedd. Diddorol iawn oedd deall gan yr athrawon fod yn cwmni bwsus wedi rhoi cost is na’r llynedd – pan oedd Pennaeth Pentrefuchaf wedi gofyn am bris! Da iawn blant. ‘Rydan ni’n gwybod pwy sy’n mynd i drefnu teithiau Ysgol Nefyn o hyn ymlaen.
Llongyfarchiadau mawr i bawb a gymerodd ran yn Eisteddfod yr Urdd ym Mhwllheli. Llwyddodd Elin i ennill y drydedd wobr am lefaru a llwyddodd y grwp ymgom (gyda rhai o ddisgyblion Ysgol Nefyn yn rhan ohono) i ddod yn fuddigol. Bu Alaw, Cian a Cenin yn gweithio’n galed iawn hefyd. Diolch yn fawr iawn ichi i gyd am fod mor awyddus i gymeryd rhan blant.
Pob lwc i’r plant sydd wedi bod wrthi’n ddiwyd iawn yn creu gwaith celf (i'r Urdd) o dan arweiniad Mrs Gwawr Howel, Mrs Lowri Roberts a Miss Lona Williams.
Erbyn hyn mae’r gwaith wedi cael ei anfon ymlaen i gael ei feirniadu.
Mae anti Barbara’n brysur iawn yn ystôd ei gwasanaethau Crefyddol fel arfer. Edrychwn ymlaen i’w gweld yn cyflwyno cyflwyniad “Agor y Llyfr” (Open the book) inni gyda’i ffrindiau’n dyfodol agos. Mae Anti Ella, Anti Barbara ac Anti Audrey’n dal i ddod atom i weithio’n wirfoddol gyda’r plant mewn Gwaith Saesneg a gwaith gwnio. Gwerthfawrogwn eu help wythnosol yn fawr iawn.
‘Roedd yn hwyl fawr pan ddaeth sioe “Hei Hogia Bach” i’r ysgol. Cafodd y plant i gyd bleser yn gwrando ar y perfformiadau ac ‘rydym wedi prynu’r llyfrau ar gyfer pob dosbarth gan fod y sioe wedi codi awydd ar bawb i ddarllen ymhellach
Bydd mwy o gyfleoedd i deuluoedd brynu llyfrau ar “Ddiwrnod y Llyfr” gan bydd stondin “Llên Llyn” Pwllheli yma yn yr ysgol o 3:00 o’r gloch ymlaen yn llawn llyfrau diddorol.
Mae croeso i unrhyw un ddod draw i bori drwyddynt.
Diolch yn fawr iawn i Gymdeithas Rhieni’r ysgol am brynu chwe gliniadur i ni yn yr ysgol. Mae elw a wnaethpwyd o’r Clwb Misol a’r elw a wnaethpwyd ar y calendrau wedi bod yn syweddol ac yn gymorth mawr at y costau.
Rydym newydd derbyn Gwobr Aur am gwblhau Cam Terfynol Ysgolion Gwyrdd Gwynedd ac Ynys Môn yn llwyddiannus.
Year 5 pupils visit Coleg Bala
The pupils of Year 5 will visit Bala College on Friday March 8th - click here
-----------------------------------------------
Year 6 pupils visiting Pentreuchaf School 22:02:13
Click here for more information
-----------------------------------------------
Parents and Teachers` Association
A meeting of the Parents and Teachers` Association will be held at the school on Wednesday February 27th at 6:00pm - click here
-----------------------------------------------
Saint David`s Day Dinner
Saint David`s day dinner will be available for those children who usually have a lunchbox on Friday, March 1st 2013 - click here
January News - translation coming soon
Mae pawb wedi setlo’n ôl yn yr ysgol ar ôl gwyliau’r Nadolig ac wedi llwyddo i gael diwrnod o hwyl yn yr eira gan fod yr ysgol wedi gorfod bod ar gau am y diwrnod oherwydd y tywydd mawr.
Croeso i Nia Mai Williams atom fel myfyrwraig sy’n dysgu disgyblion Blynyddoedd 3 a 4. Croeso hefyd i Iolo Jones fel myfyriwr sy’n dysgu disgyblion Blwyddyn 5.
Daeth sioe “Hei Hogia Bach” i Ysgol Nefyn a cafodd disgyblion Blynyddoedd 3 i 6 gyfle i weld cyflwyniadau o 6 llyfr sy’n gwerth eu darllen.
Byddwn yn cymeryd rhan yn yr “Her Darllen i Ennill” gan y Gwasanaeth Llyfrgell, unwaith eto y tymor hwn. Bydd y plant yn darllen pum llyfr rhwng rwan a mis Gorffennaf. Gan ein bod yn ymweld â’r llyfrgell yn rheolaidd bydd yr her hwn yn her ysgol gyfan.
Diolch i Anti Barbara am arwain ein gwasanaethau. Mae’n braf ei gweld yn dysgu’r Gymraeg mor dda!
Gobeithiwn y bydd Anti Ella’n ôl yma’n fuan ac wedi gwella. ‘Roedd yn ddrwg gennym glywed fod Yncl Robin wedi brifo ond ‘rydym yn falch ei fod yn teimlo ychydig yn well erbyn hyn.
Llongyfarchiadau i Ciara, Blwyddyn 5 am ennill y wobr gyntaf mewn cystadleuaeth a osodwyd gan y Llyfrgell yn Nefyn. Y wobr oedd adnoddau arlunio ac mae Ciara wrth ei bodd yn eu defnyddio.
Ymddiheurwn am fod cyn lleiad o newyddion o’r ysgol mis hwn – Gobeithiwn y bydd gennym fwy i’w rannu efo chi’r mis nesaf!
-----------------------------------------------
School closed for pupils
Friday February 1st- School closed for the pupils – Teachers` Training
Half Term Holidays
Friday February 8th School closes for the holidays
Monday February 18th – School re-opens
Click here for more
-----------------------------------------------
DVD Christmas Concert
If you wish to buy a dvd of the Christmas Concert for £5 - click here
Swimming Classes
The pupils of Years 1 and 2 (Mrs Howel`s class) will be going swimming in the afternoons from Wednesday January 9th onwards - click here
-----------------------------------------------
Carol Singing in the Church, Christmas Concert - click here
Important dates - click here
"Sinderela" Pantomime - click here
-----------------------------------------------
Christmas Dinner
Children who have a lunchbox - click here
Carol Singing
On `Y Groes` Nefyn - click here
-----------------------------------------------
Efan`s Day, November 16
Collecting money for Efan,a child from Nefyn who is in hospital - click here
-----------------------------------------------
Craft Fair 22:11:12
Please come and support! - click here
-----------------------------------------------
12:11:12 General information letter for parents - click here
-----------------------------------------------
A visit to Cricieth Castle for Years 3 and 4 (letter) - click here
-----------------------------------------------
School Calendar 2013
The school calendar will be for sale for £8.50 during December 2012
- click here
Operation Christmas Child
If you wish to give a shoe box for the Operation Christmas Child, the boxes will be collected from school on Thursday Morning 15/11/12. - click here
Half Term Holidays
The school will close today, Friday October 26rd for the half term holidays,and will re-open on Monday November 5th. - click here
-----------------------------------------------
Photographer
On Friday, November 9th (morning) there will be a Photographer at the school to take photos of the children - click here
-----------------------------------------------

25:10:12 Halloween Disco - click here
-----------------------------------------------
Dance
The pupils of year 5 will be holding a dance next Friday, October 28th, to raise money for the children of Kibera who visited us this year - click here
-----------------------------------------------
Rememberance Service
The school has accepted an invitation for the pupils of Year 6 to participate in a Rememberance Service at Eglwys Dewi Sant ( 3 o`clock Sunday November 11th) - click here
-----------------------------------------------
Parents Association Letter
A meeting of the Parents Association will be held at the school this Friday October 12th at 2.45pm,hoping more parents will be able to attend during the afternoon. All are welcome to attend - click here
School Calendar
We kindly ask all pupils to wear their school uniform this Friday, 12-10-12 for the calendar photos - click here
Newyddion Ysgol Nefyn Medi 2012
Dyma hi'n flwyddyn ysgol newydd unwaith eto. Mae pawb wedi setlo'n ôl yn yr ysgol. Mae chwith mawr gennym ar ôl y plant sydd wedi ein gadael i fynd i Ysgol Botwnnog ac i Ysgol Pwllheli. Cofiwch y byddwn yn edrych ymlaen i'ch gweld pan fyddwch yn dod yma atom am dro. Croeso cynnes i'r disgyblion sydd wedi dod i Ysgol Nefyn o'r newydd. 'Rydan ni'n gwybod y byddwch wrth eich bodd yma efo ni.
Er fod yr ardd wedi tyfu yn wyllt iawn ar ôl yr holl law yn ystod yr Haf eleni, fe fu'r plant yn casglu'r cynnyrch sef mafon, afalau coeden afalau Enlli a rhiwbob. Yna fe fu yna goginio pwdinau blasus ar gyfer amseroedd cinio yn yr ysgol.
Llongyfarchiadau i'r plant fu'n cymeryd rhan yn "Sialens i Ennill" gan y llyfrgell yn ystod gwyliau'r Haf. 'Roedd y plant yn cael eu hannog i ymweld â'r llyfrgell yn rheolaidd. 'Roedd 33 o blant wedi cwblhau'r sialens. Roedd 32 o blant wedi cychwyn ond heb orffen y sialens. Rhyngddyn nhw roedd 484 o lyfrau wedi eu darllen. Felly fe fu 65 o blant Ysgol Nefyn yn brysur yn darllen yn ystod y gwyliau.
Yn ystod wythnos Cadw Cymru'n Daclus 'roedd plant Ysgol Nefyn yn brysur iawn yn edrych ar ôl yr ardal ac yn ei lanhau. Bu un dosbarth yn casglu sbwriel oddi ar y cae, un dosbarth yn clirio o amgylch y biniau ailgylchu ar safle ailgylchu'n Nefyn a'r trydydd dosbarth yn glanhau'r traeth. 'Rydan ni'n credu fod yn rhaid inni edrych ar ôl y traeth yn aml, aml am ein bod ni wedi mabwysiadu traeth Nefyn. Gwneud cynlluniau manwl o'r "Nefyn delfrydol" bu'r pedwerydd dosbarth yn ystod yr wythnos.
Mae yna ffrindiau wedi galw i weithio efo ni'n yr ysgol ar ddechrau'r tymor hwn eto. Daw Chris Williams o glwb rygbi Pwllheli atom bob bore Mercher i ddysgu plant Blynyddoedd 5 a 6 sut i chwarae rygbi'n dda. Daeth Meic Griffiths at y ddau ddosbarth i ddysgu'r plant sut i fod yn ddiogel pan yn y dŵr. Bydd disgyblion Blwyddyn 6 yn cynnal gwasanaeth ar "Ddiogelwch Dŵr i weddill yr ysgol yr wythnos hon i'w dysgu nhw sut i gymeryd gofal yn y dŵr".
Sôn am ddiogelwch tân oedd Gwawr Williams pan ddaeth yma i Ysgol Nefyn. 'Rydan ni'n rhan o gynllun arbed ynni yn Ysgol Nefyn. Cafodd Ffion Jones gyfle i gyfarfod y grŵp Arbed Ynni ac i weithio'n y dosbarth. Mae pob plentyn yn Mlwyddyn 6 yn gofalu am wahanol ddosbarthiadau drwy'r ysgol - yn gwneud yn sicr fod y goluadau a'r gwres yn cael eu diffodd.
Daeth ffrindiau atom o'r Asiantaeth Safonau Bwyd i'n dysgu am hanfodion diogelwch bwyd. Dysgodd pawb am groeshalogi, glanhau, oeri a choginio bwyd. Roedd yn gyfle i ddysgu'n bersonol ac i ddefnyddio sgiliau meddwl. Bu grwpiau'n cydweithio er mwyn datrys problemau ac fe fuon nhw'n asesu eu hunain yn ystod y gwahanol weithdai yn y dosbarthiadau "Dirgelwch Castell y Ddraig" oedd thema'r sioe ar gychwyn y diwrnod.
Aeth plant Blwyddyn 6 i'r Amgueddfa llechi yn Llanberis i edrych ar fywyd y Chwarelwyr yng nghyfnod y Chwareli - diwrnod difyr iawn gweld chwarel Vivien, yr incling a thai y chwarelwyr. 'Roedd pawb wedi mwynhau eu hunain yn fawr iawn.
Bydd yn chwith gennym ar ôl Anti Susie gan ei bod yn gadael Nefyn diwedd y mis. Cawsom wasanaeth ganddi'n y neuadd unwaith eto. Daeth hefyd at blant Blwyddyn 5 i ateb rhai o "gwestiynau mawr bywyd" wedi iddyn nhw drafod pa gwestiynau oedden nhw eisiau atebion iddynt gan Anti Susie.
Bwriad Cymdeithas Rhieni ac Athrwon yr ysgol yw creu calendr o luniau'r plant ar gyfer 2013. Bwriedir gofyn i fusnesau lleol noddi’r calendr. Os ydych yn awyddus i hysbysu busnes ar y calendr byddem yn ddiolchgar dros ben. Bydd croeso i chi ddod â'ch cerdyn busnes neu gopi o'r hyn yr hoffech ei gynnwys ar y hysbyseb i'r ysgol (côst rhannu tudalen - £20/ côst tudalen lawn - £40). Diolch yn fawr iawn.
-----------------------------------------------
Llanberis Slate Museum
A visit to Llanberis Slate Museum for Year 6 01:10:12 - click here
Ysgol Nefyn PTA
Next meeting September 25th at 6:00pm - click here
School closed for pupils
The school will be closed on Monday October 15th and Friday November 23rd as it will be training days for the teachers.
-----------------------------------------------
A visit to Bardsey Island
There is an opportunity for the pupils of Year 6 to go on a trip to Ynys Enlli (Bardsey Island) during the next frotnight - click here
Swimming Lessons
The pupils of Years 3 and 4 (Miss Thompson`s class) will be going swimming in the mornings from Wednesday September 19th onwards - click here
The pupils of Years 5 and 6 will be going swimming in the afternoons from Wednesday September 19th onwards - click here
News - translation coming soon
Mae diwedd y flwyddyn ysgol wedi cyrraedd unwaith eto ac mae gennym waith diolch i bawb sydd wedi ein cefnogi yn ystod y flwyddyn – yn rhieni, aelodau eraill o’r teuluoedd, ffrindiau a phawb sydd wedi cyfrannu at lwyddiant y flwyddyn aeth heibio.
Diolch yn fawr iawn i Catrin Williams am weithio’n galed gyda disgyblion Blynyddoedd 1 a 2 yn y gweithdai Celf. Bydd yn werth gweld gwaith celf y plant o gwmpas ardaloedd y Cyfnod Sylfaen ar fuarth yr ysgol ym mis Medi. Bydd Catrin yn dychwelyd i wneud mwy o waith gyda’r plant ar ddechrau’r flwyddyn newydd yn yr ysgol.
Roedd yn ddrwg gennym glywed fod Anti Susie yn symud o’r ardal i fyw. Bydd yn chwith mawr ar ei hôl gan y byddem yn edrych ymlaen iddi arwain ein gwasanaethau.
Roedd Gwynant Parri yn garedig iawn yn dod atom ar frys i dynnu lluniau plant Blwyddyn 6 cyn iddynt ein gadael i fynd i’r ysgolion Uwchradd. Rydan ni’n dymuno diolch iddo am hyn. Roedd y plant eisiau “llun olaf” ohonyn nhw gyda’u ffrindiau’n Ysgol Nefyn ac roedd Mr Parri yn barod iawn i wireddu eu dymuniad.
Fe fydd 15 o blan Meithrin a phedwar o blant bach eraill yn ymuno â ni’n Ysgol Nefyn ym Medi ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr i’w croesawu atom i Ysgol Nefyn.
Llongyfarchiadau i dîm rownderi’r ysgol am ennill y twrnament yn Edern eleni a llongyfarchiadau hefyd i’r tîm pêl droed am ddod yn ail yno.
Diolch i Lois a Mared am helpu ar ddiwedd tymor prysur yn ystod yr wythnos y bu’r ddwy gyda ni yma o Ysgol Botwnnog am brofiad gwaith.
Cafodd plant adran y Babanod ddiwrnod da iawn yn yr Hwylfan yng Nghaernarfon.
Diolch i Anita Daimond, Dave a Sadie am arwain y diwrnod pan aeth plant Blynyddoedd 3, 4 a 5 i fyny i Dre’r Ceiri. Cawsom wneud gwaith diddorol yno ac roedd yn braf cael gwerthfawrogi’r olygfa bendigedig o ben y bryngaer. Bydd Anita’n dychwelyd atom ym Mis Med i ni gael llunio pecynau ar y Celtiaid ar y cyd. Byddant yn werthfawr inni fel rhan o’n gwaith hanes yma yn y dyfodol.
Cawsom noson fendigedig ar nos Sul Gorffennaf 15ed pan aethom i Gyngerdd Anno’s Africa yn y Nant. Roedd y plant yn canu ar eu gorau, ymhlith artistiaid adnabyddus eraill – Ann a Seimon, Alistair James Anderson a Jac Dobson a’r band. Roedd yno ddigon o hwyl a dawnsio rhwng hanner awr wedi chwech ac un ar ddeg o’r gloch. Tydio’n rhyfedd fel mae amser yn gwibio heibio wrth inni fwynhau ein hunain. Mae’n diolch yn fawr iawn i Anti Joy am yr holl drefnu a pharatoi di-ddiwedd yn ogystal â’i harweiniad llawn bywyd yn ystod y noson. Roedd cael gweld ein ffrindiau o Affrica yn anfon negeseuon i ni ar y sgrin fawr yn codi hiraeth mawr arnom. Mae’n braf cael gwybod fod yr arian a gasglwyd yn mynd i gael ei ddefnyddio ar gyfer sicrhau fod y pedwar plentyn a fu yma efo ni (Victoria, Virginia, Wilson, Fredrick) yn derbyn addysg ysgol Uwchradd yn ddi-dâl (ysgoloriaeth). Diolch i’r holl rieni ddaeth i’r cyngerdd i gefnogi’r Elusen “Anno’s Africa”. Diolch i bawb a gyfrannodd at wobrau’r raffl, a gododd dros £400 at y noson.
Ymddiheurwn am orfod gohirio ein diwrnod mabolgampau eleni oherwydd y tywydd. Gobeithiwn drefnu diwrnod arall ym mis Medi. Ymddiheurwn hefyd am na chafodd disgyblion Blwyddyn 6 ymweld ag Ynys Enlli, er yr holl edrych ymlaen oherwydd amgylchiadau a oedd y tu allan i’n rheolaeth ni’n Ysgol Nefyn. Bydd cyfle i ddisgyblion Blwyddyn 5 ymweld â’r ynys ym mis Medi.
Roedd yn anodd iawn ffarwelio gydag ugain o ddisgyblion Blwyddyn 6 ar ddiwedd y tymor hwn. Rydym i gyd yn Ysgol Nefyn yn dymuno’r gorau iddynt yn Ysgol Botwnnog.
Casglodd criw y Bingo fil a hanner o bunnoedd i ni’ n yr ysgol yn ystod y flwyddyn. Heb y bobl sy’n dod i’r Bingo ar nos Lun ni fyddai hyn wedi bod yn bosiblac rydym yn gwerthfawrogi eu hymroddiad yn fawr.
Mae Yncl Eric wedi treulio oriau yn cael trefn ar ardd yr ysgol ac mae pawb yma’n diolch yn fawr iddo am ei waith alled.Yn anffodus mae’r tywydd wedibod yn erbyn i’r disgyblion weithio allan yn yr ardd yn ystod y Gwanwyn a’r Haf eleni.
-----------------------------------------------
Reception,Year 1 and Year2 visit to Hwylfan Letter
The pupils of Reception,Year 1 and Year2 will visit the Hwylfan Caernarfon on Monday July 16th 2012 - click here
-----------------------------------------------
School Dinners from September 2012
The Council’s Cabinet Member for Education has decided to raise the cost of school dinners from September. School dinners will be £1.95 per day - click here
Ynys Enlli
As you know we had to postpone the Bardsey Island trip. We have rearranged the activity on Thursday July 12th, if the weather permits. Thank you for your co-operation - click here
Tre`r Ceiri
As you know we had to postpone the Tre`r Ceiri trip.
We have rearranged the activity on Thursday July 12th, if the weather permits.
Thank you for your co-operation - click here
School Fair
A School Fair and Sports Afternoon is being held on the school field on Friday July 13th at
2 o`clock. - click here
Anno’s Africa 3/7/12
If you haven’t already heard...it’s time for Anno’s Africa Annual Concert at Nant Gwrtheyrn again...we are all feeling very excited! - click here
News - translation coming soon
Erbyn hyn mae'r pedwar athrawon a phedwar o ddisgyblion o Nairobi wedi dechrau cysylltu gyda rhai ohonom ac wedi gadael inni wybod eu bod yn ein colli'n fawr iawn. Maent wrth eu boddau'n siarad am eu profiadau wrth eu ffrindiau adref yn Kibera. Rydan ninnau'n Ysgol Nefyn mor eithriadol o falch am ein bod wedi cael y cyfle i dreulio'r amser yn eu cwmni. Fe ddysgon ni gymaint am eu ffordd o fyw yn ystod y cyfnod byr hwn. Ein dymuniad nawr yw cael y cyfle i groesawu criw arall atom o Nairobi i Ysgol Nefyn y flwyddyn nesaf eto. Byddwn yn cymeryd rhan mewn cyngerdd yn Nant Gwrtheyrn ar Ddydd Sul Gorffennaf 15 - cyngerdd "Anno's Africa" fydd yn cael ei gynnal i gasglu arian i'r elusen fel y llynedd.
Dymunem ddiolch i Cat, Harry a gweddill y tîm fu'n gyfrifol am greu dwy raglen "O Nefyn i Nairobi". Mae nifer fawr iawn o bobl wedi canmol y cynnwys.
Croeso i ddau o fyfyriwr atom i Ysgol Nefyn y mis hwn - Alaw Dobson o Brifysgol Bangor (5 diwrnod) a Gethin Jones o Goleg Meirion dwyfor (5 diwrnod).
Cafodd disgyblion Blwyddyn 5 hwyl go iawn yn ystod y tri diwrnod yng Ngwersyll yr Urdd, Glan Llyn. Bu cyfleoedd i ganwio, adeiladu rafft, nofio, bowlio deg, dawnsio a cherdded yn y glaw mawr. Diolch o galon i ddisgyblion Ysgolion Pentrefuchaf, Foelgron a Llidiardau am yr holl hwyl a sbri. Roedd yn gas gan bawb ffarwelio â'r gwersyll a dychwelyd i Ysgol Nefyn p'nawn Dydd Gwener.
Mae'na waith llongyfarch y plant gymerodd ran yn yr athletau, hoci a'r twrnament criced.
Erbyn i'r Llanw ddod allan gobeithiwn y bydd y tywydd wedi caniatau i ddisgyblion Blwyddyn 6 ymweld ag Ynys Enlli am y diwrnod o dan arweiniad Mr Elfed Gruffydd. Cawsom fore diddorol yn astudio lluniau o'r ynys ar y bwrdd gwyn rhyngweithiol a gwrando arno'n cyflwyno gwybodaeth inni am Ynys Enlli.
Gobeithiwn hefyd y bydd y tywydd wedi caniatau i ddisgyblion Blynyddoedd 3, 4 a 5 gael teithio i Dre Ceiri a dysgu mwy am ffyrdd y Celtiaid yno o dan arweiniad Anita Daimond.
Dychwelodd disgyblion Blwyddyn 6 i'r ysgol yn edrych ymlaen am gael cychwyn yn Ysgol Botwnnog ym mis Medi, wedi iddyn nhw gael treulio diwrnod "blasu" yno.
Diolch yn fawr iawn i Gwyneth Evans ac Anti Beryl am ddysgu'r plant ar gyfer y cyngerdd yn y Ganolfan ar nos Wener Mehefin 22. Roedd cyfle i'r disgyblion rannu'r llwyfan gyda Dafydd Iwan, Ann a Simon, Côr Nant Peris, gyda Dilwyn Morgan yn arwain y noson.
Daeth P.C John atom i Ysgol Nefyn unwaith yn rhagor i ddysgu'r plant am beryglon sylweddau ac am beryglon bwlio.
Dysgodd disgyblion Blwyddyn 3 a 4 am ffosiliau pan ymwelodd Steven Wright â'r dosbarth.
Roedd Yncl Albi'n gwybod llawer am y fflam Olympaidd gan ei fod yn un o'r bobl a oedd yn cario'r fflam ar ei thaith. Cafodd disgyblion Blynyddoedd Meithrin, Derbyn, 1 a 2 gyfle i'w holi pan ddaeth atom i'r dosbarth am y prynhawn.
Diolch i Robert Parkinson a Laura am weithio gyda disgyblion Dosbarth 4 a 5 - Astudwyd cadwyn fwyd anifeiliaid o’n cwmpas ac roedd cyfleoedd i wneud gwaith Celf. Mae'r murlun o Borthdinllaen a gyflwynwyd ganddynt i Ysgol Nefyn yn hardd dros ben.
-----------------------------------------------
Football and Rounders Competition
A day of football and rounders competition at Ysgol Edern on Tuesday, July 10th - click here
Important dates
PTA /
Parents` open evenings / Sports and Craft Fair / Summer Holidays - click here
A visit to Bardsey Island
Pupils of Year 6 go on a trip to Ynys Enlli (Bardsey Island) on Wednesday June 27th - click here
Tre Ceiri Visit
Years 3,4 & 5 – Thursday, June 28th - click here
-----------------------------------------------
Llongyfarchiadau i enillwyr Clwb Cant y mis hwn – 1af – Awen Hughes, 2il – Gwyneth Evans, 3ydd – Megan Jones.
Diolch i aelodau clwb y Pensiynwyr Nefyn am wahodd y disgyblion i’w diddori yn eu cyfarfod yn y Ganolfan.
Cafodd disgyblion Dosbarth Blwyddyn 4 a 5 ddiwrnod arbennig yn creu darn o farddoniaeth o dan arweiniad Mei Mac ar y thema “Y Môr” – yn gysylltiedig â Gwyl Arfordir Llyn 2012.
Ymwelodd “Carys Ofalus” â disgyblion Blwyddyn 2 i gyflwyno’r tystysgrifau gan fod y plant wedi llwyddo i ddysgu sut mae croesi’r ffordd yn ofalus.
Daeth nyrs Julie atom i siarad gyda disgyblion Blynyddoedd 5 a 6 am Addysg Rhyw a’r glasoed.
Bu Anti Nia’n cynnal gwasanaeth inni.
Ymweliad pwysig a bythgofiadwy y mis oedd ymweliad pedwar o ddisgyblion a phedwar o oedolion â ni o Nairobi. Buont yma am ddeuddeg diwrnod yn cyd-weithio gyda plant Nefyn ar brosiectau creadigol. Bu S4C yn eu ffilmio’n ddyddiol yn ystod y pum diwrnod yn yr ysgol a thu allan i’r dosbarth e.e yn gweithio mewn celf ar y traeth, yn dawnsio, canu, chwarae criced, derbyn profiadau o gael ymweld â gwahanol fusnesau yn Nefyn, yn ymarfer at y perfformiad ar lwyfan perfformio’r Urdd yng Nglynllifon, yn canu “Mama” mewn Cymraeg a Swahili, yn ymweld â’r Gadeirlen ym Mangor ac yn teithio i fyny’r Wyddfa, yn cymeryd rhan yn y carnifal mewn gwisgoedd ffansi ac yn canu yn y carnifal. Fe ymunon nhw efo ni ar ein taith cerdded i Nant Gwrtheyrn hefyd. Bu cyfle i fynychu gwasanaeth yn yr Eglwys o dan arweiniad Anti Susie, i ddysgu ychydig o Gymraeg, coginio, dawnsio’n greadigol a dysgu Mathemateg drwy chwarae gemau. Enw’r pedwar plentyn oedd Fredrick, Wilson, Viginia a Victoria ac mae disgyblion ysgol Nefyn a hwythau wedi dod yn ffrindiau mawr. Mae chwith mawr ar eu holau. Roedd presenoldeb dros gant o bobl yn y te croeso’n y Ganolfan yn profi fod pobl y dre yr un mor awyddus i’w croesawu atom ag ‘roeddem ni’n yr ysgol. Cawsom siarad gyda Anti Joy ar “Skype” pan oedd hi yn Nairobi.
Cafodd disgyblion Blwyddyn Meithrin a Blwyddyn 1 drafod beth mae cynilo’n ei olygu iddynt nhw. Daeth Elen Roberts o’r Llyfrgell atynt i sgwrsio am sut i edrych ar ôl eu harian.
Buom yn llwyddiannus iawn y mis hwn. ‘Rydym wedi llwyddo i ennill Gwobr Ansawdd Cenedlaethol Cynlluniau Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru i’r ysgol. Bellach rydym wedi llwyddo i basio Cam 6 o’r cynllun. ‘Roeddem i gyd yn hapus iawn gyda’r adroddiad canmoladwy a dderbyniom gan yr arholwr John Sam Jones. Nododd ynddi fod yr ysgol yn un o’r ychydig ledred Cymru sydd wedi llwyddo i gyflawni’r gwaith ar gyfer y wobr fawreddog yma. Cafwyd cyfarfod gwobrwyo’n yr ysgol gydfa Mr Dewi Jones, Marian Wyn Jones, Judith Roberts, Debra Eckley a dau aelod o’r LLywodraethwyr – Efled Roberts a Llinos Mêrks yn bresennol. Hefyd llwyddom fel ysgol i dderbyn yr ail wobr Baner Werdd Eco-sgolion. Derbyniom y wobr i gydnabod ein ymdrechion i weithio tuag at ffordd gynaliadwy o fyw.
Mynychodd disgublion Blwyddyn 6 Sioe Wyddonol yn ysgol Botwnnog a diwrnod blasu yn yr ysgol. Aeth disgyblion Dosbarth Blwyddyn 3 a 4 i’r ganolfan i drafod dyfodol yr Amgueddfa newydd yn Nefyn a beth ‘rydym ni fel ysgol yn gobeithio ei ennill o’r amgueddfa. Bydd cydweithio agos iawn rhyngom. Cafodd plant Blynyddoedd Derbyn, 1 a 2 gyfle i deithio i Bwllheli i weld Sioe Martin Geraint, “Dros yr Enfys”. Bu plant Blynyddoedd 2, 3 a 4 yn gymeryd rhan ym mhrosiect y Fari Lwyd – trac (Traddodiadiadau Cerdd Cymru) – mudiad sy’n hyrwyddo a datblygu cerddoriaeth a thraddodiadau Cymreig yng Nghymru a thu hwnt. Yn ystod y deuddydd ‘roedd cyfle i greu mygydau Mari Lwyd a dysgu am gefndir traddodiad y Fari Lwyd. Bu y disgyblion yn rhan o Orymdaith y Fari Lwyd yn Eisteddfod yr Urdd.
Ymwelodd P.C John â’r Urdd i siarad am ei waith fel heddwas.
Cafodd disgyblion Blwyddyn 6 dri diwrnod arbennig o dda yng Nghaerdydd yn ymweld â’r Pwll Mawr ar eu ffordd i lawr i’r ddinas. Teithiom mewn cwch yn y bore, cymeryd rhan mewn dadl yn y Senedd, ymweld â Chanolfan y Mileniwm, dawnsio, nofio, ymweld â Stadiwm y Mileniwm, ymweld â Sain Ffagan. Diolch i ddisgyblion ysgolion Pentrefuchaf a Sarn Bach am yr holl hwyl ac am gael treulio tri diwrnod hapus iawn gyda’n gilydd.
I Rhyd Ddu aeth plant Blynyddoedd 3 a 4 am y diwrnod – Bu cyfle i fynd at Llyn Dinas ac ymweld â Beddgelert.
Dyma ddarn o farddoniaeth a greodd disgyblion Dosbarth 4/5 gyda Mei Mac pan ddaeth i Ysgol Nefyn am y diwrnod-
Llanw a Thrai
Ymlacio mae’r mecryll dan greigiau Pen Llyn
A’r cimwch a’r cocos yn gytun
Bod hi’n braf ar draeth Nefyn heb olwg o ddyn.
Mae’r gwymon a’r seren yn waltsio’n rhydd
Ac anenomi’n deffro ar drothwy’r dydd.
Swn sglefran a llonyddwch sydd.
Ond fflip fflops a thyweli sydd yn dod o draw,
A sgrechfeydd a phicnics a phwced a rhaw
A chacynau dwr haerllug i godi braw.
Ac ymbarels lliwgar a lollipops rhew,
A Ffrancwyr a Sgowsars a Chofis yn dew,
Mi fyddai’r gair ‘bedlam’ yn ddisgrifiad go lew.
Ond buan daw machlud ar foliau di-lun,
Ac ar gyrion Nefyn, sydd yn ddiwrnod yn hyn,
Ymlacio gaiff y mecryll dan greigiau Pen Llyn.
-----------------------------------------------
Concert towards Plas Hafan
The school has accepted an invitation for the pupils of Years 3,4, 5 and 6 to participate in a Concert towards Plas Hafan at y Ganolfan Nefyn on Friday June 22nd 2012 - click here
-----------------------------------------------
Cricket Competition
Cricket Competition at Bodegroes Rugby Club, Efailnewydd on Monday, June 18th 2012 - click here
-----------------------------------------------
Hockey and Athletics Tournament
Year 5 and Year 6 pupils will take part in the hockey and athletics tournament at Dwyfor Leisure Centre on Tuesday June 19th 2012 - click here
Procession with the Mari Lwyd at the Urdd Eisteddfod - click here
Arrangements for the Mari Lwyd procession, Urdd Eisteddfod 2012 - click here
Arrangements for the Mari Lwyd procession and Anno’s Africa’s performance - click here
Performing with our friends from Kibera at the Urdd Eisteddfod - click here
Hockey and Athletics Tournament - click here
-----------------------------------------------
Welsh Network of Healthy School Schemes - National Quality Award
Report of visit to Nefyn Primary School, 19/20 April 2012 - click here
-----------------------------------------------
Diwrnod Pinc
 |
Disgyblion yr Ysgol yn gwisgo dillad pinc ar gyfer `Race for Life`
Casglwyd £88 tuag at yr elusen |
Tystysgrifau Nofio
 |
Disgyblion Blynyddoedd 3 a 4 gyda`u tystysgrifau nofio
|
Tair Sioe
Roedd yn ddiddorol iawn pan ymwelodd tair sioe ag Ysgol Nefyn yn ystod y mis - Diolch i Alison Hargrave am roi'r cyfle inni weld y sioe ardderchog am fywyd morwrol o'n cwmpas. Yr ail sioe oedd sioe gerdd "Forces" oedd yn ffitio i mewn i thema'r Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth a Pheirianneg "Our World in Motion" - Cyfleoedd gwych i'r plant fod yn rhan o weithdai gwerthfawr. Roedd y drydedd sioe ar gyfer disgyblion Blynyddoedd 5/ 6 ac 'roedd yn trafod problemau teithio i'r Ysgol Uwchradd - Paratoâd penigamp ar gyfer mis medi nesaf.
Ymweliadau
Galwodd ffrindiau gyda ni'n Ysgol Nefyn fel arfer - Mr John Dilwyn Williams yn cyflwyno gwybodaeth i ddisgyblion Dosbarth 3/ 4 am yr Ail Ryfel Byd. P.C John yn cynnal dau gyfarfod ar ôl ysgol (un i'r staff a'r llall i'r rhieni) ar "Yfed Alcohol", Joy Brown yn gweithio mewn Celf gyda disgyblion Dosbarth 4/ 5 a Dosbarth 6. Bu’n cychwyn ar y gwaith o greu'r faner "O Nefyn i Nairobi" ar gyfer S4C. (Bydd plant Nefyn yn arlunio ar gyfer y rhan "O Nefyn" a phlant Nairobi'n arlunio ar gyfer y rhan "I Nairobi").Daeth Joy Brown a Bee i drafod mwy am ymweliad y pedwar plentyn o Nairobi â ni'n Ysgol Nefyn yn niwedd mis Mai (Byddant yma am 10 diwrnod i gyd a bydd S4C yn darlledu'n yr ysgol yn ystod y cyfnod).
Cafodd Disgyblion Dosbarth 3/ 4 a Dosbarth 4/ 5 ail fyw'r Pasg yn ystod eu diwrnod yng Ngholeg Y Bala.
Glanhau'r traeth fu plant dosbarthiadau 3/4 a 4/ 5 (fel rhan o'n gwaith tymhorol gan ein bod wedi mabwysiadu traeth Nefyn).
Mae tair aelod o'r staff yn ffit iawn!
Rhedodd Gwawr Howel, Gwyneth Evans a Lona Williams dair milltir yng Nghaernarfon i godi arian ar gyfer "Sport Relief". Bu pob un o ddisgyblion Ysgol Nefyn yn cerdded tair milltir hefyd fel rhan o weithgareddau "Sport Relief".
Creodd Glenys Williams a Gwawr Howel Helfa Drysor o amgylch Nefyn ar droed. Ymunodd llawer o'r rhieni a'r plant gyda ni. Diolch i bawb gymerodd ran.
Urdd
Mae cyfran uchel o ddisgyblion hynaf yr ysgol yn brysur iawn yn ymarfer ar gyfer sioe'r ysgolion cynradd yn Eisteddfod yr Urdd Glynllifon eleni ac yn mwynhau'r gwaith yn fawr. Maent yn cael eu hyfforddi gan Mr Ken Hughes - Cyn Bennaeth Ysgol Porthmadog.
Ar y Traeth
Bu disgyblion Dosbarth 4 a 5 yn gweithio ar y traeth ym Morfa Nefyn gyda Laura a Robert o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol - diwrnod bendigedig yn dysgu am y gorffennol ym Mhen Llŷn, cymeryd rhan mewn cwis daearyddol, chwarae gêm yn ymwneud â "smyglo" ac adeiladu cychod gan brofi a oeddent yn gallu arnofio ai peidio, ar ddiwedd yr arbrawf.
Bu Disgyblion o'r Ysgol Uwchradd ac o Goleg Meirion Dwyfor yn treulio cyfnodau efo ni unwaith eto - Elain Thomas, Zoe Baker, Gwenllian a Harriet Froom.
Cafodd plant Ysgol Nefyn eu gwahodd i lawr i'r traeth i gael ein ffilmio'n creu amlinelliad o fap Gymru, fydd yn cael ei gynnwys mewn rhaglen arbennig. Caiff ei darlledu ar S4c ar nos Lun Mai 7fed. Darparwyd "map" ar y dydd gyda'r disgyblion yn sefyll ar y mat, gan greu siâp Cymru i'w ffilmio ar gamerau. Rhaglen arbennig ar gyfer y gyfres boblogaidd "Bro" yw hon.
Nofio
Llongyfarchiadau mawr i Cian Roberts-Jones am ennill yr ail wobr (ras cefn broga) yng nghystadleuaeth Gala Nofio Ysgolion Dwyfor. Llongyfarchiadau hefyd i Lea Owen am ennill y bedwaredd wobr (mewn ras broga).
Clwb Cant
Llongyfarchiadau i enillwyr Clwb Cant y mis hwn - Gwen Rowlands - 1af, Mr a Mrs Ken Jones - 2il, Mr Glyn Jones - 3ydd.
-----------------------------------------------
Sponsored Walk
On behalf of The Parents and Teachers Association we intend to organise a sponsored walk for the parents on Wednesday May 30th 2012 - click here
Olympic Flame at Pwllheli
There will be an opportunity for the pupils of Ysgol Nefyn to see the Olympic Flame at Pwllheli during the afternoon of Monday May 28th. - click here
Nefyn Carnival
We would like the children from Africa to join us at Nefyn Carnival on Monday June 4th (Bank Holiday). - click here
Visit to Rhyd Ddu - year 3 and 4
The pupils of Years 3 and 4 will visit Rhyd Ddu on Wednesday May 23rd 2012. - click here
`Draw dros yr Enfys`show for year 1 and 2
The pupils of Reception,Years 1 and 2 will attend `Draw dros yr Enfys`show at Neuadd Dwyfor on Thursday May 17th 2012. - click here
Purple Mash
The school has invested in a work plan called `Purple Mash`. This is a plan of work linked to the internet and the children will be able to access the work at home or school - click here
Please come and help us
Liz Watkin from Coleg Meirion Dwyfor holds meetings for parents and grandparents at Ysgol Nefyn on Monday mornings between 9:00 and 11:00 o`clock – working in the school garden - click here
A visit to Porthdinllaen for Years 4 and 5
Pupils from Years 4 and 5 (Mrs Evans` class) will visit Porthdinllaen on Tuesday April 24th as part of their History / Geography Studies - click here
Swimming Lessons
The pupils of the Reception Year will be going swimming in the afternoons from Wednesday April 25th onwards - click here
Photos from the 2011 - 2012 School Year

Click here to see more photos
Various Activities
Here are some of the school’s activities - click here
Taflen Salwch
Cyfarwyddyd ar Reoli Heintiau yn Ysgolion Gwynedd - click here
Healthy Packed Lunches
As we are a school that promotes good health we are concerned as many of the children`s packed lunches contain food that are not very healthy - click here
Year 5 Course at the Urdd Camp, Glanllyn, 13th – 15th June 2012 - click here
Adroddiad blynyddol y llywodraethwyr i rieni blwyddyn ysgol 2010/2011-click here
PC John's Visit
PC John will be in school at 5:30 o`clock on Wednesday March 28th to give parents a half hour introduction on solvent abuse, alcohol and smoking. You are welcome to attend the meeting.
Easter Holidays and Teachers` Training Day
Friday March 30th - School closes for the holidays - click here
Treasure Hunt
A treasure hunt will start from Nefyn School at 3:30pm on Thursday 29th March. Refreshments will be served at the end of the journey around Nefyn - click here
Visit to Bala College
The pupils of Years 3, 4 and 5 will visit Bala College on Tuesday March 20th as part of their Humanities studies - click here
Newyddion Llanw Llyn Chwefror 2012
Unwaith eto bu disgyblion Blynyddoedd 4 a 5 yn gweithio gyda Tegid Williams a Julie Williams – tri diwrnod o greu murlun yn y dosbarth. Mae wedi ei orffen mewn tri rhan – Porthdinllaen yn ystod yr Oes Haearn, Porthdinllaen heddiw a Phorthdinllaen fel y byddai’n edrych pe byddai porthladd prysur yma yn lle Caergybi. Cawsom noson ddifyr yng Nghlwb Golff Nefyn – “Noson Datgelu Gwaith Celf Ysgol Morfa Nefyn ac Ysgol Nefyn” – Bu disgyblion Ysgol Morfa’n gweithio’n galed ar y prosiect efo ni hefyd.
Diolch am ddiwrnod bendigedig o dan arweiniad Laura Jones, Ceidwad Arfordirol Llyn sy’n gweithio i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Fel rhan o waith Dyniaethau bu’r disgyblion yn dysgu am yr Ymddiriedolaeth a chael gweld cyflwyniad ar y bwrdd gwyn yn y bore. Yna yn y prynhawn bu mwy o waith ymarferol diddorol ar y traeth ym Mhorthdinllaen.
Roedd triciau Mark Whincup yn rai gwych fel arfer pan ddaeth atom i drafod peryglon ysmygu, cymeryd cyffuriau ac alcohol,a chyflwynodd sioe dda iawn inni i gyd.
Mwy o hud a lledrith oedd ar ein cyfer pan ddaeth Howard Hughes y conswriwr gyda’r sioe “Bygiau Baco”. Fe lwyddodd i’n cael i gyd i benderfynu nad ydym am ysmygu pan fyddwn ni’n fawr.
Llongyfarchiadau mawr i’r tri tîm o Ysgol Nefyn aeth i Ganolfan Hamdden Dwyfor i gystadleuaeth Twrnament Pêl droed a oedd wedi ei drefnu gan Coleg Meirion Dwyfor. Daeth y tri tîm yn gyntaf, ail a phedwerydd ar y diwrnod.Roedd deg tim yn cystadlu yno i gyd.
Mae’n Bythefnos Masnach Deg erbyn hyn a daeth Yncl Eifion o fusnes “Coffi Dwyfor” atom i ddysgu mwy inni am Fasnach Deg. Bu mor garedig â rhannu diodydd oren a sudd afal “Masnach Deg” i’r holl ddisgyblion yn rhad ac am ddim.
Cafodd plant Ysgol Nefyn eu gwahodd gan Anti Susie i gynnal gwasanaeth Dydd Sul Gwyl Dewi Sant yn yr Eglwys. Roedd gwahoddiad i rieni i’n gwasanaeth hefyd ac roedd cyflwyniad y plant i gyd yn dda iawn – Diolch ichi blant ac i’r rhieni am ddod i wrando. Roedd yr Eglwys yn llawn fel arfer. Daeth Anti Nia atom i gynnal gwasanaeth yn yr ysgol yn ystod y mis..
Llongyfarchiadau i’r canlynol am ennill gwobrau ein clwb misol –
- Cyntaf – Jane Casey, Morfa Nefyn
- Ail – Glyn Jones, Morfa Nefyn
- Trydydd – Sandra Jones Parry, Llithfaen
Pob lwc i holl ddisgyblion yr ysgol sy’n cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd ym Mhwllheli – Unigolion yn adrodd a chanu, parti cyd-adrodd a dau barti unsain. Gobeithio y byddwn yn ddigon llwyddiannus i gael mynd ymlaen i gystadlu yn yr Eisteddfod ym Mangor.
Mae noson prysur o’n blaen ar nos Sadwrn y 10fed o Fawrth pan gaiff Cyngerdd Agoriad Swyddogol y Ganolfan ei gynnal. Cawn gymeryd rhan gyda phobl enwog eraill – Bydd Rhys Ifans yn agor y noson a’r arweinydd fydd Tony Llywelyn. Yn perfformio bydd Dafydd a Mirain, Seimon Menai ac Ann Hafod a Pharti Gwrtheyrn. Roeddem yn falch pan ffoniodd Nia’r i ofyn i ninnau blant Nefyn fod yn rhan o’r noson – rhywbeth i edrych ymlaen ato.
YSGOL NEFYN PTA
A meeting of the Parents and Teachers` Association will be held at the school on Tuesday February 18th at 6:00pm. All are welcome to attend.
Dydd Gwyl Ddewi
It is Saint Davids` Day on Thursday March 1st. Your child / children are welcome to wear a traditional Welsh costume or a Wales rugby shirt to school.
Saint Davids` Day Service
You are welcome to come and join us at the church at 2 o`clock on Thursday March 1st 2012 for a Saint Davids` Day Service.
INSET DAY
Friday March 16th - School closed for the pupils – Teachers` Training Day
Gwyliau`r Pasg
Friday March 30th School closes for the holidays
Monday April 16th – School re-opens
Click here for letter
News from Ysgol Nefyn January 2012
Erbyn hyn ‘rydym wedi cychwyn clwb misol yn Ysgol Nefyn ac mae 127 o aelodau. Mae croeso i unrhyw un ymuno â’r clwb ond i chi ffonio’r ysgol (rhif ffôn ysgol Nefyn – 01758 720765).
Enillwyr Ionawr 2012 yw –
1af – Elen Owen (Morfa Nefyn).
2ail – Ann Williams (Porthmadog).
3ydd – Jane Seyler (Kent).
Croeso cynnes i’r myfyrwyr sydd wedi ymuno gyda ni yn Nhymor y Gwanwyn 2012. Bydd Jessica a Sioned o Goleg Meirion Dwyfor yma gyda ni ar Ddydd Gwener yn helpu’n y dosbarthiadau. Mae Ceri Ellen Jones Evans a Catrin Mai Evans, dwy fyfyrwraig o’r Brifysgol yn gweithio gyda ni am saith wythnos hefyd (Roedd y bara cri a gafodd eu coginio gan y Babanod gyda Ceri’n flasus iawn!) Daeth ffrindiau atom i’n helpu ar ddechrau’r tymor eto – Bu Anti Nia ac Anti Susie’n cynnal gwasanaethau crefyddol.
Cafodd disgyblion yr holl ddosbarthiadau gyfleoedd i gymeryd rhan mewn chwarae gemau, gweithio fel aelodau o weithdai, gwneud arbrofion gyda dŵr, a dysgu am wahanol ddulliau o beidio gwastraffu dŵr. Daeth Claire Jones Yr Alwen (Dŵr Cymru) i ddysgu’r plant am y diwrnod.
Cafodd Paula Owen, Swyddog Diogelwch y Ffyrdd sgwrs gyda dau o Swyddogion Blwyddyn 6 sef Rhydian a Non.
Bydd P.C Jones yn brysur iawn yn cydweithio’n y gwahanol ddosbarthiadau yn ystod gwahanol ymweliadau . Y testunau yw “Pobl sy’n helpu” (Blwyddyn Derbyn), Moddion (Blwyddyn 1 a 2), Dieithriaid (Blynyddoedd 3 a 4), Effaith Alcohol (Blwyddyn 5) ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (Blwyddyn 6).
Mae ‘na edrych ymlaen o ddifrif i gael cymeryd rhan a pherfformio’n sioe yr Urdd, Eisteddfod yr Urdd Glynllifon yn ystod gwyliau’r Sulgwyn 2012. Mae’n braf gweld Mr Ken Hughes, cyn Bennaeth Ysgol Eifion Wyn Porthmadog yn galw’n yr ysgol i ddechrau trefnu ar gyfer hyfforddi’r plant.
Daeth Mamma B, Anti Joy a Gareth Brown at ddisgyblion Blynyddoedd 4 a 5 a Blwyddyn 6. Cawsom wybod llawer am y gwaith caled o arwain ysgol yn Kibera Slum am 3 mis y flwyddyn. ‘Roedd yna luniau inni eu hastudio ar y bwrdd gwyn yn ogystal ag enghreifftiau o waith celf y disgyblion yno. ‘Rydym yn gynhyrfus iawn gan y bydd rhai o ddisgyblion y wlad yn dwad atom i gyd-weithio’n ysgol Nefyn ac i gymeryd rhan yn yr Eisteddfod yr Urdd yn ystod gwyliau’r Sulgwyn. ‘Rydym wedi gefeillio gyda disgyblion yr ysgol yn Kibera.
Mae disgyblion Blwyddyn 4 a 5 wedi mwynhau gweithio gyda Tegid Williams ac Anita Daimond o dan arweiniad Juls mewn gwaith Celf. Bu taith addysgol i Gaergybi lle y cawsom astudio’r porthladd yno.
Daeth John Cave sydd wedi arfer gweithio gyda Stenna i gyflwyno gwybodaeth pellach i ni. ‘Roedd yn ddiwrnod llawn hwyl ac yn ddiddorol dros ben.
Croeso i ddau o ddisgyblion newydd atom yn ysgol Nefyn -Olivia (Blwyddyn Derbyn) ac Emily (Blwyddyn 4).
Bu dathliadau’r wythnos Tseiniaidd mewn mwy nag un dosbarth wrth i’r disgyblion ymchwilio i’r math o ddathliadau sy’n cymeryd rhan yno’n ystod y flwyddyn newydd a blasu gwahanol fwydydd.Cafodd disgyblion Blynyddoedd 1 a 2 ddysgu ac actio am y “Fari Lwyd” gan deithio o gwmpas y gwahanol ddosbarthiadau’n adrodd a chanu hen benillion.
Diolch i’r disgyblion am ddangos digon o ddiddirdeb i fynychu Cyfarfodydd yr Urdd ar ôl ysgol ar brynhawniau Llun i gystadlu mewn gwaith Celf ac i gael eu hyfforddi mewn adrodd a chanu ar gyfer yr Eisteddfod. Bydd clwb Addysg Gorfforol yn cychwyn ar brynhawniau Mawrth ar ôl ysgol ar ôl gwyliau Hanner Tymor.
-----------------------------------------------
Events Diary 2012 - click here
Family scheme letter - click here
-----------------------------------------------
Urdd Club will not be held next week Letter - click here
-----------------------------------------------
School closed for pupils Monday January 30th
Letter - Teachers` Training Day and Half Term - click here
-----------------------------------------------
Swimming Lessons
The pupils of Years 1 and 2 (Mrs Howel`s class) will be going swimming in the afternoons from Wednesday January 11th onwards - click here
The pupils of Years 3 and 4 (Miss Thomopson`s class) will be going swimming in the mornings from Wednesday January 11th onwards - click here
A visit to Holyhead, Anglesey for Years 4 and 5
Pupils from Years 4 and 5 will visit Holyhead, Anglesey on Monday January 9th,as part of their Humanity Studies - click here
Click here to visit the News Archive 2008
Click here to visit the News Archive 2009
Click here to visit the News Archive 2010
Visit the class pages to see what's going on - click here
|
|